FIDEO DRAMATIG YN NODI AWR O BWYS I ABERTAWE

Nodwyd carreg filltir yn un o gynlluniau adfywio cyfredol proffil uchel mwyaf Cymru gan fideo dramatig a ryddhawyd ar-lein heddiw.​

Cynhaliwyd y seremoni gosod carreg gopa ar arena newydd Abertawe, a chanddi le i 3,500 o bobl – cyrchfan nodedig newydd ar gyfer De Cymru – gyda dathliad rhithwir, yn sgîl y cyfyngiadau cyfredol o ganlyniad i COVID-19.

Nododd arweinwyr gwleidyddol a busnes yr achlysur gyda’i gilydd, yn ddigidol, trwy fideo a grëwyd yn arbennig.

Mae’r ffilm yn cynnwys lluniau o ddrôn yn ysgubo trwy’r ardal eang – a newydd ei henwi – rhanbarth Cam Un Bae Copr. Mae’n tywys y gwyliwr o gwmpas y cyfadeilad ac i fyny at do’r arena, dros 20m uwchben y ffordd islaw.

Y gweithgarwch hwn oedd y garreg filltir ddiweddaraf yng nghynllun gwerth £135 miliwn Cam Un Bae Copr, catalydd ar gyfer trawsnewidiad gwerth £1 biliwn y ddinas dros y blynyddoedd nesaf.

Cyflwynir y cynllun gan Gyngor Abertawe a’i ariannu gan y cyngor, Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Gyda RivingtonHark yn rheoli’r datblygiad, mae’n cael ei adeiladu gan Buckingham Group Contracting a gweithredir yr arena gan The Ambassador Theatre Group, (ATG), arweinydd byd-eang theatr fyw. Mae’r prosiect, gyda’r arena, 1.1 erw newydd o barcdir, cartrefi, unedau masnachol, parcio ar gyfer tua 1,000 o geir a phont dirnod, ar darged i agor yn ail hanner y flwyddyn nesaf.

Ymhlith y rhai a ymddangosodd yn y fideo gosod carreg gopa oedd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David T C Davies, Dirprwy Weinidog Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, Aelodau’r Senedd Julie James a Rebecca Evans, Cyfarwyddwr Buckingham Group, Kevin Underwood a Chyfarwyddwr Gweithrediadau ATG Group, Stuart Beeby.

Roedd y ffilm yn cyfuno delweddau drôn ar draws y safle â delweddau a gynhyrchir gan gyfrifiadur a chyfweliadau fideo. Gellir ei gweld ar-lein yma.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, “Mae hwn yn gyfnod allweddol yn y broses o drawsnewid y safle hwn ac adfywiad gwerth £1 biliwn canol dinas Abertawe.

“Mae’r sectorau preifat a chyhoeddus yn cefnogi Abertawe gyda syniadau, arian a gweithredu – a gall pobl ar draws ein cymunedau fod yn hyderus yn nyfodol y ddinas.

“Mae canol dinas Abertawe yn datblygu’n gyflym i fod yn lle gwych i fyw, gweithio, astudio a chwarae ynddo.

“Er bod hwn yn gyfnod pwysig, fe wnaethon ni ystyried y pandemig a dewis dathlu mewn modd rhithwir yn hytrach na thrwy ymgynnull mewn modd traddodiadol.”

“Er bod hwn yn gyfnod pwysig, fe wnaethon ni ystyried y pandemig a dewis dathlu mewn modd rhithwir yn hytrach na thrwy ymgynnull mewn modd traddodiadol.”

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, “Mae’n wych gweld prosiect trawsnewidiol – un o brosiectau mwyaf y DU – yn cael ei gyflwyno yng nghanol Abertawe.

“Mae’n rhywbeth i fod yn gyffrous iawn amdano ac mae wedi bod yn gyflawniad anhygoel i’w gyflwyno yn ystod cyfnod anodd iawn.”

“Mae’n rhywbeth i fod yn gyffrous iawn amdano ac mae wedi bod yn gyflawniad anhygoel i’w gyflwyno yn ystod cyfnod anodd iawn.”

Meddai Dirprwy Weinidog Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, “Bydd yr arena i’w gweld ar draws Bae Abertawe – a gobeithiwn y bydd ei heffaith economaidd i’w gweld ar draws y ddinas-ranbarth.”

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae uchelgeisiau Abertawe yn dod at ei gilydd!

“Rydym eisoes yn ffodus o gael byw ym mae gorau’r DU – nawr mae’r arena’n dangos sut rydym yn darparu cyrchfan o’r radd flaenaf yng nghanol y ddinas.

“Y datblygiad hwn fydd y catalydd i sbarduno’r holl uchelgeisiau sydd gennym felly rwy’n annog buddsoddwyr i’n hystyried; chawn nhw ddim eu siomi.”

Meddai Cyfarwyddwr Buckingham Group, Kevin Underwood, “Rydym yn cyflwyno gwaith o ansawdd uchel ar y prosiect arbennig iawn hwn – datblygiad blaenllaw gwych ar gyfer canol Abertawe. Rydym wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth adeiladu’r arena flaengar hon ac edrychaf ymlaen at gynnal rhai sioeau gwych yn y dyfodol agos.”

Meddai Cyfarwyddwr Gweithrediadau ATG Group, Stuart Beeby, “Gyda’r garreg filltir fawr hon wedi’i chyrraedd, gall pawb ddechrau gweld sut olwg fydd ar adeilad arbennig Arena Abertawe.

“Mae arena o’r fath yn haeddu cael ei llenwi â pherfformwyr o’r radd flaenaf ac rydym eisoes yn trefnu sioeau gyda rhai o brif hyrwyddwyr y diwydiant.

“Mae dyfodol newydd Abertawe fel cyrchfan ar gyfer yr adloniant byw gorau yn agosach nag erioed.”

Copr Bay Phase One under construction

How the arena in Copr Bay will look