Pont newydd drawiadol yn cysylltu’r ddinas â’r môr fel rhan o gynllun adfywio gwerth £1 biliwn yn abertawe

8 Mawrth 2021

Cwblhawyd y gwaith o osod pont newydd nodedig, sy'n cysylltu canol dinas Abertawe â'i marina a'i thraeth, dros y penwythnos.

Fel dinasoedd arfordirol Barcelona a Vancouver, mae arfordir Abertawe sydd wedi’i ganmol yn rhyngwladol wedi’i wahanu oddi wrth y ddinas gan ffordd fawr, a roddwyd ar waith fel rhan o ymdrechion i ailadeiladu’r ddinas yn dilyn Blitz Tair Noson enwog Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r cyflawniad diweddaraf yn gam eiconig yn adfywiad gwerth £1 biliwn Abertawe dan arweiniad y sector cyhoeddus, a gychwynnwyd cyn COVID ac sy’n fodel ar gyfer sut y gall dinasoedd adfer yn dilyn pandemig.

Mae’r bont yn un arbennig sy’n gynrychioliad gweledol trawiadol o’r gwaith y mae Cyngor Abertawe’n ei wneud i greu cyrchfan trefol sy’n dwyn ynghyd y gorau o fyw mewn dinas a mynediad at natur. Wedi’i chynllunio gan artist lleol a chwmni pensaernïol arobryn, bydd y bont 49 metr yn rhychwantu chwe lôn o draffig, gan weithredu fel porth i ganol y ddinas i gerddwyr a beicwyr.

Mae canol dinas Abertawe yn destun un o’r trawsnewidiadau trefol mwyaf sy’n cael eu cyflwyno yn y DU ar hyn o bryd. Mae £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cynhwysfawr ledled y ddinas i ganiatáu i Abertawe wireddu ei photensial fel un o’r lleoedd mwyaf bywiog i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef yn y wlad.

Mae Cyngor Abertawe, fel tirfeddiannwr mwyaf y ddinas, mewn sefyllfa eithriadol i ail-ddychmygu’n sylweddol sut olwg fydd ar ddinas ar ôl COVID. Ochr yn ochr â RivingtonHark, arbenigwyr adfywio canol trefi a dinasoedd sy’n gweithredu fel rheolwr datblygu ar gynllun Cam Un Bae Copr sy’n dod i’r amlwg, mae gweledigaeth uchelgeisiol y cyngor yn bwysicach nag erioed ers dechrau pandemig COVID. Gyda phwyslais ar deithio llesol, mannau cyhoeddus cynaliadwy a hardd, a hamdden a lletygarwch, yn ogystal â chael gwared ar unedau manwerthu segur ac wedi dyddio, mae gweledigaeth y cyngor ar gyfer Abertawe, a gynigiwyd cyn y pandemig, wedi’i chyfiawnhau.

Wedi’i hariannu’n rhannol gan grant Mynediad at Deithio Llywodraeth Cymru, mae’r bont yn darparu mynediad di-dor rhwng canol dinas Abertawe ac arena newydd â lle i 3,500 o bobl sy’n cael ei hadeiladu fel rhan o gam cyntaf prosiect Bae Copr, a fydd dan arweiniad hamdden. Drwy wella mynediad rhwng canol dinas Abertawe, ei gynnig hamdden a lletygarwch sy’n dod i’r amlwg, a’r ardaloedd cyfagos o harddwch naturiol, bydd y bont yn groesfan sy’n apelio’n weledol yn ogystal â bod yn garreg filltir yn y prosiect i ail-ddychmygu’r hyn y dylai dinasoedd ei gynnig yn y cyfnod ar ôl pandemig.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe,“Mae cysylltu canol ein dinas newydd â’r môr yn gam eiconig yn nhrawsnewidiad uchelgeisiol ein dinas. Bydd y bont hon yn esiampl barhaol sy’n dweud wrth bobl beth yw nod Abertawe: cyrchfan agored a bywiog lle mae cyfleoedd yn cael eu creu a rhwystrau’n cael eu goresgyn.

“Abertawe fydd y ddinas sy’n esiampl o le ôl-bandemig enghreifftiol, lle gall pobl brofi’r gorau o fywyd dinesig a harddwch natur. Mae gan Abertawe arfordir godidog a choetiroedd trawiadol y cydnabyddir yn rhyngwladol eu bod ymhlith y lleoedd harddaf yn y byd, yn ogystal â ffordd o fyw ddydd-i-nos fywiog a datblygol yn y ddinas. Mae gan Abertawe hefyd economi sy’n elwa o fewnwelediadau a graddedigion dwy brifysgol o’r radd flaenaf a disgwylir iddi fod yn un o’r prif feysydd ar gyfer twf cyflogaeth yn y DU. Mae gan Abertawe’r cyfan – a chyda’n pont newydd gofiadwy, rydym yn ei gwneud yn gliriach nag erioed bod ein dinas ar agor.”

Cymerodd y broses osod, sy’n gam symbolaidd yn adfywiad Abertawe, ddwy awr yn unig, a gwnaed gwaith adeiladu gerllaw – ar safle adeiladu Bae Copr – rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2020. Wedi’i chynllunio mewn partneriaeth â’r artist byd eang o Abertawe, Marc Rees a chwmni pensaernïol arobryn ACME, mae’r bont yn cydbwyso esthetig cyfoes â chyfeiriadau sy’n dathlu treftadaeth y ddinas. Mae dyluniad y bont yn cynnwys 2,756 o siapiau origami wedi’u torri gan laser, pob un wedi’u gwasgaru ar draws y paneli i greu patrwm gweledol diddorol sydd weithiau’n creu delwedd alarch origami gyflawn.

Dywedodd Marc Rees, “Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o adfywiad mor eiconig yn fy nhref enedigol. Disgrifiodd Dylan Thomas Abertawe fel “tref hyll a hardd” – ni waeth ei resymau dros hynny ar y pryd, mae dyhead Abertawe i newid, tyfu a ffynnu yn fwy nag amlwg nawr. Mae trawsnewidiad y cyngor o’r ddinas yn creu dinas fodern, fywiog a chyfleoedd i breswylwyr, artistiaid a busnesau, y rhai sy’n galw Abertawe yn gartref iddynt a’r rhai a ddylai alw Abertawe’n gartref.”

Meddai Mark Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol RivingtonHark,“Yn ein cymdeithas, prin yw’r pethau sy’n fwy defnyddiol yn ymarferol ac yn symbolaidd na phont. Mae croesfan diweddaraf Abertawe, sy’n rhan o’r ail-ddychmygu uchelgeisiol hwn o sut olwg ddylai fod ar ddinas ar ôl pandemig, yn mynd â hyn gam ymhellach wrth gysylltu’r elfennau dinesig â natur, prysurdeb y ddinas â’r arfordir eang, ac yn cyflwyno manteision economaidd a chymdeithasol sy’n cyflwyno lle mwy prydferth i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef.

“Wrth i ni ddechrau dod allan o’r pandemig, mae dinasoedd fel Abertawe – dan arweiniad awdurdod lleol creadigol ac a gefnogir gan bartneriaid yn y sector preifat – mewn sefyllfa ragorol i ddarparu ansawdd bywyd gwell i breswylwyr ac adfer yn well.”

Mae cam cyntaf prosiect Bae Copr gwerth £135 miliwn, sy’n rhan o adfywiad ehangach y ddinas, yn cynnwys dyluniad a phensaernïaeth drawiadol ynghyd â defnyddiau hamdden a mannau gwyrdd newydd. Bydd atyniadau’n cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, sef y parc mawr cyntaf a grëwyd yn y ddinas ers oes Fictoria, canolfan feicio ac arena â lle i 3,500 o bobl yn ogystal â man cynnal digwyddiadau byw.

Mae Cam Un Bae Copr hefyd yn cynnwys caffi a bwyty 1,500 troedfedd sgwâr yn ei barc arfordirol newydd wedi’i dirlunio, gydag 8,000 troedfedd sgwâr arall o ofod lletygarwch, sy’n cwmpasu amrywiaeth o gaffis, bwytai a siopau annibynnol.

Watch the timelapse video