Wedi’i chyllido a’i darparu’n falch gan Gyngor Abertawe gyda chymorth gan y Fargen Ddinesig

Logo Cyngor Abertawe
Logo Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Lle Mae Tywod

AC YN CWRDD Â THIR

AC YN CWRDD Â BYWYD

Mae canol dinas Abertawe’n destun prosiect trawsnewid dinesig mawr, gyda thros £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi ledled y ddinas, gan ganiatáu i Abertawe wireddu ei botensial fel un o’r lleoedd mwyaf bywiog i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef yn y DU.

Ariennir a datblygir Cam Un Bae Copr gan Gyngor Abertawe, gydag elfen arena’r cynllun yn cael ei hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe’n gronfa fuddsoddi gwerth £1.3 biliwn sy’n cynnwys arian gan Lywodraeth y Du, Llywodraeth Cymru a’r sector preifat er mwyn cwblhau prosiectau trawsnewid mawr yn yr ardal hon o dde Cymru.

MAE’R CYNLLUNIAU AR GYFER CAM UN YN CYNNWYS...

Diwylliant

Arena gwbl gyfoes â lle i 3,500 o bobl i'w gweithredu ar sail tymor hir gan yr arweinwyr theatr byd-eang, Ambassador Theatre Group (ATG).

Cymdogaeth

Cartrefi newydd yng nghanol y ddinas.

Aros

Gwesty

Chwarae

Parc arfordirol 1.1 erw prydferth, wedi'i dirlunio, gyda mannau awyr agored i bob oedran eu mwynhau

Pontio'r bwlch

Ailgysylltu canol y ddinas â’n morlin eang drwy bont dirnod

Dylunio

Mannau cyhoeddus gwell

Busnes

Cyfleusterau cynadledda yn yr arena i ategu portffolio swyddfeydd y ddinas sy’n parhau i dyfu a’i mannau ar gyfer cydweithio

Profiad

A range of independent and locally run dining concepts and shops

Y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf

Preswylwyr yn symud i mewn i fflatiau newydd Bae Copr

23 Awst 2022

Gan fod y gwaith adeiladu bellach wedi’i gwblhau, mae llawer o breswylwyr eisoes wedi dechrau symud i mewn i gyfadeilad o fflatiau newydd yng nghanol dinas Abertawe.

Bae Copr yn rhoi hwb i swyddi a'r economi

14 Mehefin 2022

Mae ffigurau newydd yn dangos y sicrhawyd dros 8,000 o wythnosau o gyflogaeth, prentisiaethau a lleoliadau i hyfforddeion yn ystod gwaith adeiladu cyrchfan newydd Bae Copr Abertawe sy’n werth £135m.

33 new affordable homes
230,000 visitors to the Arena
A new landmark destination for the city

Y fideos diweddaraf

Rob Stewart
Quote mark image

O’n traeth ysblennydd a’n tirnodau hanesyddol i’n prifysgolion a sefydliadau o’r radd flaenaf, mae Abertawe’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd nad ydynt wedi’u gwerthfawrogi’n iawn am gyfnod rhy hir. Ochr yn ochr â’r prosiectau trawsnewidiol eraill sy’n digwydd ar draws y ddinas, mae Abertawe Ganolog yn ddarn coll o’r jig-so a fydd yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas, ac yn cryfhau ein bywiogrwydd economaidd yn fawr.

Rob Stewart
Arweinydd Cyngor Abertawe

Byddwch yn rhan ohono

Mae cyfleoedd prydlesu ar gyfer manwerthu, bwytai a chaffis ar gael nawr ar gyfer Cam Un Bae Copr. Rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael.