Amodau A Thelerau

The council's terms and conditions for using this website

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth sy’n gywir ac yn gyfoes. Fodd bynnag, ni all Cyngor Dinas a Sir Abertawe dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra a allai ddeillio o ddefnyddio’r safle hwn.

Efallai bydd ein gwedudalennau’n cynnig dolenni i wefannau eraill lle bo’n briodol, yn ddidwyll. Nid yw Cyngor Abertawe’n gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol ac ni fydd yn derbyn atebolrwydd am arddangos gwybodaeth anghywir neu am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol a allai godi ar ôl cysylltu â’r safleoedd hynny.

Firysau

Mae’r cyngor yn gwneud pob ymdrech i wirio’r ffeiliau sydd ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan hon am firysau. Ni all y cyngor dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio deunydd a lawrlwythwyd. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn ailwirio’r holl ddeunydd a lawrlwythwyd gan ddefnyddio’u meddalwedd firysau eu hunain.

Hawlfraint

© Hawlfraint Dinas a Sir Abertawe

Mae’r tudalennau hyn, oni nodir yn wahanol, wedi’u hamddiffyn gan hawlfraint. Ni chaniateir ailgynhyrchu’r deunydd hwn mewn unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig Cyngor Abertawe. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol ar gyfer cynnwys y wefan hon.

Efallai y cedwir hawliau eiddo deallusol peth o’r deunydd hwn gan awduron unigol. Ni chaniateir defnyddio logo Cyngor Abertawe mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig.