Cyfle prydlesu cyffrous ar gyfer cysyniad canolfan feicio yng Ngham Un Bae Copr i ddarparu storfa a gwasanaethau beicio hanfodol a defnyddiau beicio eraill.
Bydd ychwanegu’r ganolfan feicio newydd hon yng Ngham Un Bae Copr yn darparu gwasanaethau beicio hanfodol i’n cymuned o breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr sy’n tyfu.
Mae’r ganolfan yn rhan allweddol o’n gweledigaeth cludiant ar draws y ddinas, ac rydym yn ymrwymedig i wella cyfleusterau beicio lleol i annog mwy o bobl i deithio i’r ddinas ac o’i chwmpas ar gefn beic. Rydym wedi buddsoddi dros £5 miliwn yn ddiweddar, fel rhan o grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, i wella isadeiledd beicio’r ddinas, gan gynnwys creu bont drawiadol Bae Copr i gerddwyr a beicwyr a fydd yn ailgysylltu’r ddinas â’r Marina a’r traeth. Ar gyfer y 60% o breswylwyr Abertawe sy’n byw o fewn 500 metr o lwybr beicio dynodedig, heb sôn am y 4.7 miliwn o ymwelwyr blynyddol sy’n gallu mwynhau dros 120km o lwybrau beicio golygfaol, bydd y ganolfan feicio’n darparu gwasanaethau beicio hanfodol mewn lleoliad gwych.
Howard French
Rheolwr Adfywio Ffisegol, Cyngor Abertawe
Maint yr uned:
153 M SG / 1646.9 TR SG
Os hoffech drafod cyfle prydlesu ym Mae Copr, cysylltwch â Spencer Winter yn RivingtonHark, neu Jonathan Hicks yng Nghyngor Abertawe.