Y Weledigaeth

Un o'r mannau mwyaf cyffrous yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef.

Y Weledigaeth

Bydd Bae Copr, rhan annatod o’r prosiect uchelgeisiol i adfywio’r ddinas, yn gymdogaeth fywiog, newydd ar gyfer diwylliant a hamdden, wedi’i leoli berffaith rhwng canol dinas Abertawe a’r traeth syfrdanol. Gydag arena perfformiadau byw a chanolfan gynadledda o’r radd flaenaf, gwesty newydd, dros erw o erddi newydd wedi’u tirlunio, cartrefi, swyddfeydd a bwytai gerllaw, bydd Bae Copr yn caniatáu’r ddinas i wireddu ei photensial i ddod yn un o’r lleoedd mwyaf cyffrous i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef yn y DU.

EIN STORI MEWN NIFEROEDD

230,000

o ymwelwyr â’r arena

Dros £460 miliwn

o wariant twristiaeth y flwyddyn

600,000

o bobl o fewn 30 munud o amser gyrru

+10.4%

Disgwylir +10.4% o dwf yn y boblogaeth erbyn 2036

33

o gartrefi fforddiadwy newydd

8km

o forlin eang ym Mae Abertawe

30,000

o fyfyrwyr prifysgol yn astudio yn Abertawe

£17.1 miliwn

additional GVA from Phase One per annum

4.7 miliwn

o ymwelwyr bob blwyddyn

960

o leoedd parcio ceir

£1 biliwn

Buddsoddiad o £1 biliwn ar draws y ddinas

15 munud

o’r Mwmbwls, a gafodd ei gynnwys ar leoedd gorau
i fyw The Sunday Times

160

o sioeau yn yr arena bob blwyddyn

750

o leoedd i gynadleddwyr yn y cyfleusterau cynadledda

8,000 TR SG

o unedau masnachol/bwyd a diod

Canwr yn perfformio ar lwyfan

Arena ATG

I’w gwblhau ar ddiwedd 2021, bydd Abertawe Ganolog yn cael ei angori gan arena amlswyddogaethol a chanolfan gynadledda, a weithredir gan yr arweinydd byd-eang mewn theatr fyw, The Ambassador Theatre Group (ATG). Nod y lleoliad yw llwyfannu 160 o berfformiadau’r flwyddyn ar draws comedi, theatr, cerddoriaeth fyw a gemau cyfrifiadur, gan ddenu dros 230,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r ddinas a lleoli Abertawe fel cyrchfan dymunol ar gyfer hamdden a busnes.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe ers peth amser bellach i greu lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a pherfformiadau yn Ne Cymru. Bydd y gofod perfformio byw anhygoel hwn ar flaen ein strategaeth gerddoriaeth a chomedi newydd, yn ogystal â chyflwyno cynnwys newydd fel Gemau Cyfrifiadur ac E-chwaraeon. Rydym yn edrych ymlaen at ddiddanu cynulleidfaoedd yn yr Arena gyda’r perfformiadau gorau o’r DU ac yn fyd-eang.

Mark Cornell
Prif Swyddog Gweithredol, Ambassador Theatre Group

Pont Gyswllt

Dyluniwyd y bont i gerddwyr a beicwyr, sy’n cysylltu’r ddinas â’r Marina a’r traeth tywodlyd, gan y penseiri ACME, ar y cyd â Marc Rees, artist lleol y cydnabyddir ei waith yn rhyngwladol.

Mae pont arbennig newydd Abertawe’n dystiolaeth bellach o’r sylw a roddwyd i ddyluniad o safon a’r nodweddion artistig beiddgar sy’n ganolog i amgylchedd Bae Copr.

Pont droed cerddwyr
Menyw yn beicio trwy barc
Friedrich Ludewig

Mae Heol Ystumllwynarth wedi gwahanu’r ddinas oddi wrth y bae am hanner canrif, a bydd y bont newydd o’r diwedd yn ailgysylltu canol yn ddinas â’r Arena a’r Marina, a bydd yn gam at gysylltu â’r traeth. Cafodd dyluniad y bont ysbrydoliaeth o hanes Abertawe fel prifddinas fyd-eang o ran cynhyrchu metel, ac mae’r patrymau trydylliad a ddatblygwyd gan yr artist lleol Marc Rees yn datgelu silwetau haniaethol o elyrch o bell ac agos. Mae lliw a goleuadau’r bont wedi’u dylunio i gydamseru â ffasâd goleuo’r Arena i greu ardal sy’n curo â bywyd ddydd a nos.

Mae gwaith cynllunio o’r radd flaenaf yn diffinio adeiladau, parciau a strwythurau ardal newydd Abertawe Ganolog. Wrth galon yr ardal mae’r Arena newydd, mewn llenfur metel ymoleuol a fydd yn dod â pherfformiadau’n fyw ac yn creu tirnod newydd yn Abertawe.

Friedrich Ludewig
Cyfarwyddwr yn ACME, Prif Gynllunwyr a Phenseiri Abertawe Ganolog

Delwedd wedi'i chreu gan gyfrifiadur o Arena Bae Copr

Parc Arfordirol

Yn dafliad carreg o draeth syfrdanol y ddinas, bydd 1.1 erw o erddi wedi’u tirlunio yn amgylchynu’r arena newydd ac yn darparu gwagle deniadol a newydd yn y ddinas i’r gymuned ac ymwelwyr. Yn y parc arfordirol bydd ardal fwyta Y Pafiliwn.

Adfywio Abertawe

Yn ychwanegol i Gam Un Bae Copr, mae Cyngor Abertawe wedi nodi saith safle strategol arall ar draws y ddinas a fydd yn destun ailddatblygiad mawr. Bydd pob un ohonynt yn cefnogi gweledigaeth gyffredinol y cyngor i drawsnewid y ddinas yn gyrchfan gwaith a hamdden bywiog.

Llinell amser

Gweler y cerrig milltir a gyflawnwyd hyd yn hyn a’r hyn sydd ar ddod ym Mae Copr.

Hydref 2018
C4 2019
Medi 2020
Medi 2020
9 Tachwedd 2020
10 Tachwedd 2020
12 Tachwedd 2020
Mawrth 2021
Canol - Diwedd 2021
Diwedd 2021

Rhoi caniatâd cynllunio

Construction work

Gwaith yn dechrau ar y safle

Copr Bay bridge link

Y bont yn cyrraedd y safle

Construction work

Cwblhau'r gwaith dur ar yr arena

Copr Bay logo

Enw a brand wedi'u cyhoeddi

The lookout

Yr Wylfan wedi'i lansio

Aerial view of the Arena topping out

Gosod carreg gopa’r arena

Bridge installation at Copr Bay

Gosod y bont

A family relaxing at home

Cynllun yn agor

Arena CGI

Arena ATG yn agor