Cyfleoedd prydlesu

Bae Copr fydd cyrchfan poblogaidd y ddinas ar gyfer ardaloedd bwyta a siopau annibynnol a redir yn lleol, yn ogystal â chyfle cyffrous i gysyniadau sy'n dod i'r amlwg fod yn rhan o'r gymdogaeth newydd fywiog hon. Mae cyfleoedd prydlesu bellach ar gael ar gyfer Cam Un.

The Pavilion

Mae’r Pafiliwn, sydd wedi’i osod ym mharc arfordirol newydd y ddinas gerllaw’r Marina gydag 1.1 erw o erddi wedi’u tirlunio o’i gwmpas, yn darparu cyfle newydd ar gyfer cysyniad bwyty/caffi newydd a fydd yn gyrchfan poblogaidd i deuluoedd y ddinas.

Wedi’i Osod

Cupid Way

Mae Cupid Waysydd ar draws y bont arbennig newydd o'r arena a thafliad carreg o farchnad a phrif ardaloedd siopa canol y ddinas, yn ddatblygiad a fydd yn dod yn ardal siopa a chiniawa annibynnol ar gyfer y ddinas. Mae cynlluniau'n cynnwys fflatiau preswyl, lle parcio i 600 o geir, unedau manwerthu a bwytai.

St David's Place

Gyda disgwyl iddo ddod yn lle cymdeithasol newydd ar gyfer y ddinas, bydd St David’s Place yn cyfrannu at Gamau Un a Dau Abertawe Ganolog, gan ddarparu gwell mannau gwyrdd a thir y cyhoedd. Bydd tirnod hanesyddol Eglwys Dewi Sant yn gefndir i’r neuadd eglwys newydd a’r caffi / adeilad masnachol gyda thir y cyhoedd newydd o’i amgylch, sydd wedi’i gynllunio i ategu’r eglwys restredig.

Cycle Hub

Cyfle prydlesu cyffrous ar gyfer cysyniad canolfan feicio yng Ngham Un Bae Copr i ddarparu storfa a gwasanaethau beicio hanfodol a defnyddiau beicio eraill.

Cysylltiadau prydlesu

Os hoffech drafod cyfle prydlesu ym Mae Copr, cysylltwch â Spencer Winter yn RivingtonHark, neu Jonathan Hicks yng Nghyngor Abertawe.

Spencer Winter

Spencer Winter

RivingtonHark

ffôn: 07879 887510
E-bost: spencer.winter@rivingtonhark.com

Jonathan Hicks

Jonathan Hicks

Dinas a Sir Abertawe

ffôn: 07980 938617
E-bost: jonathan.hicks@swansea.gov.uk

Quote mark image

Mae’r cyfle yn Abertawe yn enfawr, a thrawsnewidiad Bae Copr yw dechrau broses y ddinas o wireddu ei photensial i fod yn gyrchfan fusnes a hamdden arweiniol. Yn ogystal â bod yn lle ar gyfer adloniant o’r radd flaenaf, bydd Bae Copr hefyd yn gymdogaeth drefol newydd i bobl.

RivingtonHark logo

Spencer Winter

RivingtonHark