Technoleg ddigidol sy’n rhoi golwg o’r dyfodol fel rhan o’r gwaith gwerth £1 biliwn i adfywio abertawe

Dadorchuddiwyd technoleg arloesol fel rhan o brosiect adfywio yng nghanol dinas Abertawe, a fydd yn caniatáu ymwelwyr i gael golwg o’r dyfodol.

Lansiwyd yr Wylfan heddiw (11 Tachwedd) yn natblygiad arena Bae Copr gwerth £135 miliwn oddi ar Oystermouth Road, Abertawe. Bydd yn ardal cynnwys y cyhoedd sy’n cynnwys technoleg uwch sy’n cyfuno delweddau archif a hanesyddol ag arloesedd digidol. Bydd ysbienddrychau digidol yn ganolog i’r atyniad am ddim, gyda sgrîn wylio ar bob un ohonynt. Maent yn rhoi cyfle i breswylwyr lleol ac ymwelwyr weld clipiau rhyngweithiol sy’n cyfuno lluniau presennol â rhai sy’n dangos sut olwg fydd ar y ddinas mewn ychydig flynyddoedd, wrth i hanes y datblygiad adfywio gwerth £1biliwn drwy gydol y ddinas ddatblygu.

Fel elfen ryngweithiol ychwanegol, bydd gwylwyr yn gallu tynnu llun o’u hunain a’i ‘osod’ yn y cyrchfan Bae Copr er mwyn gweld eu hunain yn rhan o’r cyrchfan.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae Abertawe’n enwog am ei harbenigedd arloesol mewn meysydd fel gwyddorau bywyd, uwch-beirianneg, deunyddiau, technolegau carbon isel, technoleg ddigidol a diwydiannau creadigol. Pwysleisir yr arloesedd hwn gan Brifysgol Abertawe, arweinydd byd-eang o ran hyrwyddo technoleg ddigidol. Bydd y bartneriaeth rhwng datblygiad Cam Un Bae Copr a’r brifysgol yn rhoi cyfle i breswylwyr a gweithwyr lleol gael cipolwg blaengar ar yr hyn sydd ar ddod yn ein dinas. Mae gosodiad yr Wylfan yn amlygu bod y ddinas yn datblygu’n gyflym fel hwb o safon ar gyfer dyluniad ac arloesedd digidol.”

Mae Bae Copr, yr enw parhaol ar gyfer y datblygiad ‘Abertawe Ganolog’ yn flaenorol, yn datgan treftadaeth ddiwydiannol sylweddol ac arfordir byd-enwog y ddinas. Bydd yn dod â diwylliant, adloniant a hamdden ynghyd ac yn cysylltu canol y ddinas â’r marina a’r traeth tywodlyd eang. Mae Cam Un yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Abertawe, gan weithio gyda’r rheolwr datblygu, RivingtonHark.

Mae’r Wylfan, sy’n cael ei chyflwyno gan Gyngor Abertawe fel rhan o’i strategaeth celf a’i rheoli gan RivingtonHark, wedi’i dylunio i gynnig cyfleoedd mewnwelediad a myfyrio i ymwelwyr â’r datblygiad, gan bwysleisio hanes, gwaith adeiladu presennol ac atyniadau’r dyfodol, yn ogystal ag amlygu arloesedd a thalent yn Abertawe.

Datblygwyd y glasbrint ar gyfer yr arddangosfeydd digidol rhyngweithiol gan Anna Carter, myfyriwr PhD yn Ffowndri Gyfrifiadurol Prifysgol Abertawe sy’n gweithio yn y Ganolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Ddoethurol gyda’r Athro Matt Jones, Dr Jen Pearson, Dr Simon Robinson a Gavin Bailey.

Mae dyfeisiau gwylio dyfodolaidd yr Wylfan yn cael eu gweithredu heb ddefnyddio dwylo, gan eu gwneud nhw’n ddiogel o ran COVID ac yn hygyrch i bobl o bob gallu. Bydd dwy ddyfais yn cael eu gosod ar uchderau gwahanol er mwyn i oedolion, pobl sy’n defnyddio cadair olwyn a phlant eu defnyddio. Cynhyrchodd Tom Henderson o Henderson Engineering yn Abertawe’r sbienddrychau digidol drwy ddilyn cysyniad RivingtonHark.

Meddai’r Athro Jones, “Mae technoleg ddigidol yn cynnwys llawer mwy na ffonau symudol a chyfrifiaduron. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar roi pobl wrth wraidd arloesedd yn yr economi ddigidol. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut gall deallusrwydd artiffisial a data mawr ganolbwyntio’n fwy ar fodau dynol, a thrwy hynny greu mwy o gyfleoedd. Mae sbienddrychau’r Wylfan yn cyfuno delweddau cyfredol, delweddau o’r archif a delweddau hanesyddol â golwg o’r dyfodol, gan roi golwg atyniadol o sut olwg fydd ar Abertawe mewn ychydig flynyddoedd.”

Wedi’u lleoli i dde Eglwys y Santes Fair, bydd sbienddrychau’r Wylfan yn cynnwys technoleg sy’n gallu newid drwy gydol y gwaith adeiladu er mwyn cynnwys golygfeydd, gwybodaeth ac arddangosfeydd rhyngweithiol newydd i sicrhau y gall pobl leol ac ymwelwyr brofi rhywbeth newydd bob tro maen nhw’n ymweld. Gan wella’r profiad y gellir ymgolli ynddo hyd yn oed yn fwy, bydd gwyrddni o amgylch gosodiad yr Wylfan, gan gynnwys coed newydd a seddi, i roi rhagolwg cysyniadol i ymwelwyr o’r hyn sydd i ddod ym mharc arfordirol 1.1 erw Bae Copr. Gosodwyd ‘glaswellt’ artiffisial yn yr Wylfan fel ei fod yn para, ond bydd y parcdir yn noddfa hamddenol ar gyfer bioamrywiaeth.

I gwblhau safle’r Wylfan, gosodwyd graffig trawiadol a gynhyrchwyd gan gwmni cyfryngau creadigol o Abertawe, iCreate, sy’n rhoi mewnwelediad i sut bydd y datblygiad yn edrych.

Meddai Anna Carter, “Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe gan mai dyma’r unig brifysgol sy’n cynnig cyfle i astudio technoleg drwy roi prif ffocws ar ryngweithio dynol. Roedd y cydweithrediad hwn â Cham Un Bae Copr yn teimlo fel partneriaeth naturiol, gan fod pobl ac arloesedd dyluniad yn ganolog i’r cynlluniau ar gyfer y cyrchfan. Rwy’n gobeithio y bydd sbienddrychau’r Wylfan yn rhoi cyfle gweledol adeiladol i weld y datblygiadau cyffrous sy’n cael eu cyflwyno yn y ddinas mewn ffordd ryngweithiol ac atyniadol.”

Yr arena, sydd â lle i 3,500 o bobl, fydd yr adeilad cyntaf yn y DU i gynnwys arddangosfa goleuadau blaengar gyda thros 70,000 o oleuadau LED sy’n gallu creu arddangosfeydd o waith celf deinamig. Bydd agweddau eraill ar y cynllun yn cynnwys parcio, pont dirnod, parc arfordirol, unedau masnachol a fflatiau. Daw Bae Copr â swyddi newydd i’r ddinas a bydd yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach yn y ddinas. Bydd y gweithredwr adloniant byd-eang, ATG, yn cynnal yr arena.

Bydd Cam Dau Bae Copr yn cynnwys cartrefi, unedau masnachol a swyddfeydd ychwanegol megis hwb swyddfeydd ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys swyddfeydd newydd ar gyfer busnesau bach a rhai newydd, yn benodol fel lle i ddechrau busnes sy’n diwallu anghenion myfyrwyr sy’n ceisio ehangu eu gyrfaoedd yn y ddinas ar ôl graddio.