Bae Copr yn rhoi hwb i swyddi a’r economi

14 June 2022

Mae ffigurau newydd yn dangos y sicrhawyd dros 8,000 o wythnosau o gyflogaeth, prentisiaethau a lleoliadau i hyfforddeion yn ystod gwaith adeiladu cyrchfan newydd Bae Copr Abertawe sy'n werth £135m.

New figures show over 8,000 person weeks of employment, apprenticeships and trainee placements were secured throughout the build of the new district, which includes Swansea Arena.

Mae Bae Copr, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac y rheolwyd y datblygiad gan RivingtonHark, yn cynnwys Arena Abertawe yn ogystal â’r parc arfordirol 1.1 erw, y bont dros Oystermouth Road, lleoedd parcio newydd, fflatiau newydd a lleoedd newydd ar gyfer busnesau bwyd a diod.

Buckingham Group Contracting Ltd yw’r prif gontractwr ar gyfer y cynllun ac ariennir y cynllun yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n werth £1.3 biliwn.

Mae ffigurau newydd hefyd yn dangos gwariant cadwyn gyflenwi o 41.5% ar gyfer y prosiect yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe, a bod 64% o’r gwariant wedi aros yng Nghymru.

Mae hyn wedi golygu bod tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter y cyngor wedi trechu unrhyw gystadleuaeth gan weddill y wlad i ennill y categori gwerth cymdeithasol yng Ngwobrau GO Cymru, sy’n dathlu’r llwyddiannau caffael gorau gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat a rhai’r trydydd sector.

Mae Y Tu Hwnt i Frics a Morter, sef polisi adfywio a chaffael Cyngor Abertawe, yn sicrhau bod buddion cymunedol yn cael eu cynnwys ym mhob contract mawr. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod busnesau lleol yn elwa o gyfleoedd cadwyni cyflenwi ac yn gweithio i sicrhau lleoedd ar gyfer prentisiaethau, hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir neu’n anweithgar yn economaidd.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, “Mae Bae Copr wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo agor ym mis Mawrth, ac mae miloedd o bobl leol ac ymwelwyr ag Abertawe wedi mwynhau’r cyfleusterau, gan gynnwys yr arena, y parc arfordirol newydd a’r bont newydd dros Oystermouth Road.

“Yn ogystal â darparu cyfleusterau newydd o ansawdd uchel a chreu swyddi newydd dros y misoedd diwethaf, mae Bae Copr hefyd wedi cael effaith sylweddol ar yr economi leol yn ystod y gwaith adeiladu. Mae hyn yn cynnwys miloedd o wythnosau o waith a lleoliadau i bobl leol, ynghyd â gwariant mawr ar fusnesau cadwyn gyflenwi yn Abertawe, y Dinas-ranbarth a Chymru.

“Mae ein tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn haeddu cydnabyddiaeth am y llwyddiannau hyn. Aethant y tu hwnt i’w targedau ar gyfer y prosiect, a hynny yn ystod pandemig.”

Roedd gwaith arall a arweiniwyd gan y tîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter ym Mae Copr yn cynnwys trefnu ymweliadau â’r safle, lleoliadau profiad gwaith ac i raddedigion ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol.

Cynrychiolwyd y tîm Gymru yn y categori gwerth cymdeithasol yng Ngwobrau cenedlaethol GO, gan ennill anrhydedd ‘canmoliaeth uchel’.