St David's Place

Mae cyfleoedd prydlesu ar gyfer manwerthu, bwytai a chaffis ar gael nawr ar gyfer Cam Un Bae Copr.

St David's Square Cafe, Copr Bay, Swansea

St David's Place

Gyda disgwyl iddo ddod yn lle cymdeithasol newydd ar gyfer y ddinas, bydd St David’s Place yn cyfrannu at Gamau Un a Dau Abertawe Ganolog, gan ddarparu gwell mannau gwyrdd a thir y cyhoedd. Bydd tirnod hanesyddol Eglwys Dewi Sant yn gefndir i’r neuadd eglwys newydd a’r caffi / adeilad masnachol gyda thir y cyhoedd newydd o’i amgylch, sydd wedi’i gynllunio i ategu’r eglwys restredig. 

Bydd Bae Copr, sydd wedi’i leoli rhwng y traeth a chanol y ddinas, yn gyrchfan bywiog a chofiadwy a fydd yn apelio at gynulleidfa eang o breswylwyr, gweithwyr lleol, myfyrwyr a thros 4.7 miliwn o dwristiaid y flwyddyn. Bydd cynnig y cyrchfan hwn, sydd eisoes yn gatalydd mawr ar gyfer newid yn y ddinas, a’i gyfleusterau a’i fannau agored yn denu rhagor o bobl, busnesau a buddsoddiad i’r ddinas.

Yn ogystal â chreu cymdogaeth drefol newydd ar gyfer y ddinas, bydd Bae Copr yn datblygu dyheadau Abertawe i fod yn gyrchfan hamdden arweiniol, gydag adloniant, celfyddydau a diwylliant o’r radd flaenaf.

Spencer Winter
Cyfarwyddwr Prosiectau, RivingtonHark

Cynlluniau safle

Skip image slider
Cynllun prydlesu Bae Copr
Cynllun prydlesu Bae Copr
Cynllun prydlesu Bae Copr
Plan of St David's Square Cafe / commercial unit

Gwybodaeth am unedau

Maint yr uned:

112.9 M SG / 1,215 TR SG

Cysylltiadau prydlesu

Os hoffech drafod cyfle prydlesu ym Mae Copr, cysylltwch â Spencer Winter yn RivingtonHark, neu Jonathan Hicks yng Nghyngor Abertawe.

Spencer Winter

Spencer Winter

RivingtonHark

ffôn: 07879 887510
E-bost: spencer.winter@rivingtonhark.com

Jonathan Hicks

Jonathan Hicks

Dinas a Sir Abertawe

ffôn: 07980 938617
E-bost: jonathan.hicks@swansea.gov.uk