Mae Debbie Green, Prif Weithredwr Grŵp Tai Coastal, yn credu bod cynlluniau fel y prosiect gwerth £12m i wella Ffordd y Brenin a arweinir gan Gyngor Abertawe, eisoes yn gwneud gwahaniaeth drwy ddenu diddordeb gan fuddsoddwyr.
Meddai Debbie, “Mae wedi bod yn wych gweld Ffordd y Brenin newydd a gwyrddach yn datblygu ac rydym yn falch o fod yn chwarae rhan yn hynny drwy wneud gwaith uwchraddio yn 85, Ffordd y Brenin, gyda waliau gwyrdd cyntaf erioed canol y ddinas a chartrefi newydd gyferbyn ar Stryd Rhydychen.Mae’n gwneud canol y ddinas yn fwy deniadol i fusnesau fuddsoddi ynddo a hefyd yn ei gwneud yn lle llawer gwell i fyw neu ymweld ag ef.
“Mae’n amser cyffrous i Abertawe, gyda llawer mwy o fuddsoddiad wedi’i gynllunio gan y cyngor, Coastal ac eraill. Mae ein cartrefi newydd ar Castle Street yng nghanol y ddinas newydd gael eu trosglwyddo ac mae ein gwaith adfywio parhaus ar y Stryd Fawr yn cynnwys cynlluniau ar gyfer Canolfan Les o’r radd flaenaf, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.”
Mae gwaith adfywio arall sy’n parhau yn Abertawe’n cynnwys cyrchfan cam un Bae Copr gwerth £135m sy’n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe, dan arweiniad y rheolwr datblygu RivingtonHark. Mae’r cynllun yn cynnwys Arena Abertawe, sydd â lle i 3,500 o bobl, parc arfordirol 1.1 erw, y bont newydd dros Oystermouth Road, maes parcio newydd, cartrefi newydd a lleoedd i fusnesau hamdden a lletygarwch.
Mae’r cyngor hefyd yn arwain y gwaith gwerth £3m i drawsnewid Wind Street yn gyrchfan mwy addas i deuluoedd. Mae’r cynllun yn cynnwys cyflwyno palmentydd, celfi ac ardaloedd gwyrdd newydd, gyda mannau awyr agored dynodedig ar gyfer ardaloedd bwyta lletygarwch.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Yr hyn rydyn ni’n ei weld yw ymagwedd ‘Tîm Abertawe’ rhwng partneriaid sy’n trawsnewid ein dinas yn un o’r lleoedd gorau yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef.
“Mae gwaith Coastal yn allweddol i adfywiad parhaus y ddinas. Mae’n cyfrannu at swm enfawr o gynnydd parhaus sy’n cael ei wneud, sy’n golygu bod Abertawe mewn sefyllfa dda i adfer yn gyflym o effaith y pandemig er budd pobl leol a busnesau lleol.”
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr