Gyda’i gilydd, maen nhw wedi gwneud gwerth 722,000 awr o waith, a dengys y ffigurau y daw 77% o’r gweithwyr o Gymru.
Mae ardal cam un Bae Copr sy’n werth £135m yn cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, y parc arfordirol 1.1. erw, y bont newydd dros Oystermouth Road, lleoedd newydd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch a chyfleusterau parcio newydd.
Cyngor Abertawe sy’n datblygu’r ardal, gyda chefnogaeth y rheolwr datblygu, RivingtonHark. Bydd y gwaith i adeiladu’r ardal, dan arweiniad Buckingham Group Contracting, yn cael ei orffen yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a bydd yr arena’n agor ei drysau’n gynnar yn 2022.
Mae Ambassador Theatre Group (ATG), a fydd yn gweithredu’r arena, eisoes wedi penodi tîm i reoli’r lleoliad. Maent ymysg 21 o swyddi amser llawn y bydd yr arena’n eu creu, gydag oddeutu 120 o swyddi achlysurol pellach i’w creu yn yr ardal.
Amcangyfrifir y bydd yr arena, unwaith y bydd yn weithredol, yn cynhyrchu 467 o swyddi amser llawn yn Abertawe pan fydd swyddi anuniongyrchol a grëir mewn sectorau fel y gwasanaethau adeiladau a bwyd a diod hefyd yn cael eu cynnwys.
Mae un o fusnesau Abertawe, The Secret Hospitality Group, wedi ymrwymo i redeg bwyty a chaffi ym mharc arfordirol Bae Copr, a fydd yn cynhyrchu mwy fyth o swyddi i bobl leol. Bydd y busnes hefyd yn ymuno â’r bwytai eraill yn ei grŵp drwy gael gafael ar ei holl gynnyrch o fewn 10 milltir i Abertawe.
Bydd Cyngor Abertawe hefyd yn cyflogi rhagor o Geidwaid Canol y Ddinas i weithio yn ardal y parc arfordirol.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Yr hyn sydd wrth wraidd ein cynllun Bae Copr yw creu ardal a fydd o fudd i bobl leol drwy greu swyddi a denu rhagor o ymwelwyr a gwariant ar gyfer ein busnesau presennol.
“Mae’r miloedd o weithwyr adeiladu sydd wedi bod ar y safle drwy gydol y pandemig wedi hybu busnesau lleol ar adeg heriol iawn oherwydd yr arian maent wedi bod yn ei wario ar fwyd, diod a llety, ond bydd cannoedd yn rhagor o swyddi amser llawn yn dilyn ym Mae Copr. Yn ogystal â swyddi’r arena, bydd y rhain hefyd yn cynnwys swyddi i’w creu gan denantiaid y cynllun nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi eto.
“Bydd datblygiad cam un Bae Copr yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe. Drwy ddenu miloedd yn rhagor o bobl i ganol y ddinas, bydd yn cefnogi’n busnesau lleol ymhellach, wrth greu rhagor o fuddsoddiad a swyddi.”
Dywed y Cyng. Stewart hefyd fod miloedd o swyddi eraill ar eu ffordd i Abertawe, yn ogystal âr rhai a gynhyrchir gan gam un Bae Copr.
Meddai, “Er nad yw’r cynllun wedi’i orffen eto, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth o fuddsoddiad gan y sector preifat yn cael ei sbarduno gan y gwaith, sydd wedi cynyddu proffil Abertawe’n sylweddol ledled y DU a thu hwnt.
“Ychydig wythnosau’n ôl, cyhoeddom ein partner datblygu sector preifat o ddewis – Urban Splash – i wneud gwaith gwerth £750m i drawsnewid sawl safle allweddol yn Abertawe, gan gynnwys safle Gogledd Abertawe Ganolog ar draws y ffordd i’r Arena lle mae gennym gynlluniau ar gyfer hwb sector cyhoeddus. Bydd y cynlluniau hyn yn cyfuno i greu 10,000 yn rhagor o swyddi diogel yn Abertawe, a bydd gwaith adeiladu’n dechrau cyn bo hir ar y datblygiad swyddfa newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi eraill.”
Mae elfen yr arena o gam un Bae Copr yn cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, ynghyd â’r datblygiad swyddfa a gynllunnir ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin.
Bydd datblygwr ar gyfer cam dau Bae Copr a nifer o safleoedd eraill yn Abertawe yn cael eu penodi yn ddiweddarach eleni fel rhan o fenter Adfywio Abertawe.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr