Mae dros 1,600 o baneli wedi’u gosod – a phob un yn cynnwys goleuadau LED er mwyn gallu cynnal arddangosfeydd o gwmpas yr atyniad.
Mae’n garreg filltir arall ar gyfer ardal cam un Bae Copr sy’n werth £135m, sy’n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a’i gynghori gan y rheolwyr datblygu, RivingtonHark.
Bydd y gwaith i adeiladu’r ardal, dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, yn cael ei orffen yn ddiweddarach eleni, a bydd yr arena’n agor ei drysau’n gynnar yn 2022.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Dyma garreg filltir bwysig arall i ardal cam un Bae Copr a fydd yn werth cannoedd o swyddi a £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.
“Significant progress is being made every day. This includes the planting of trees and other greenery in the 1.1-acre coastal park next to the arena and major construction progress on the new restaurant in the park that will be run by a Swansea business.
“Mae tenantiaid a gweithredwyr yr arena – Ambassador Theatre Group – hefyd wedi dechrau cyhoeddi enwau’r rheini fydd yn perfformio yn yr arena, gan helpu i gynyddu’r cyffro cyn cyhoeddi’r brif act gerddorol agoriadol.
“Efallai fod pobl sy’n cerdded, yn beicio neu’n gyrru ar hyd Oystermouth Road hefyd wedi gweld y gwyrddni ychwanegol sydd wedi cael ei gyflwyno’n ddiweddar wrth ymyl y ffordd, a bydd wal fyw hefyd yn cael ei chyflwyno gerllaw cyn bo hir.
“Mae’r arena’n creu tirnod trawiadol newydd ar ddinaswedd drawsffurfiedig Abertawe. Bydd yn cyfuno â llawer o brosiectau eraill i sicrhau bod ein dinas yn adfer yn gyflym o effaith economaidd y pandemig.
“Mae cam un Bae Copr wedi cael ac yn parhau i gael ei gyflwyno er gwaethaf her COVID, wrth baratoi’r ffordd ar gyfer cam dau a fydd yn cael ei ddatblygu gan Urban Splash, ein partner datblygu o ddewis, a fydd yn adfywio sawl safle allweddol yn Abertawe.”
Mae nodweddion eraill Bae Copr yn cynnwys pont newydd dros Oystermouth Road a fydd yn elwa’n fuan o gynllun goleuo parhaol. Mae fflatiau’n cael eu hadeiladu hefyd, ynghyd â lleoedd am ragor o fusnesau yn y sector lletygarwch a hamdden.
Ariennir arena cam un Bae Copr yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau sydd hefyd yn cynnwys y datblygiad swyddfa newydd a gaiff ei adeiladu cyn bo hir yn 71/72 Ffordd y Brenin.
Ariennir y bont dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr