Arweinwyr busnes Abertawe’n cefnogi’r gwaith i adfywio canol y ddinas

26 Awst 2021

Mae arweinwyr busnes Abertawe'n cefnogi'r gwaith gwerth miliynau o bunnoedd sy'n digwydd ar hyn o bryd i adfywio canol y ddinas.

Dywed Alan Brayley, Rheolwr Gyfarwyddwr AB Glass, a Natasha Fulford, Rheolwr Gyfarwyddwr MGB Communications, fod graddfa’r gwaith adfywio’n creu cyfleoedd i fusnesau lleol ac yn cynhyrchu canol dinas gwell i breswylwyr lleol ac ymwelwyr â’r ddinas.

Mae Cyngor Abertawe’n arwain ar sawl cynllun adfywio mawr, gan gynnwys ardal cam un Bae Copr sy’n werth £135m. Mae’r cyngor hefyd yn arwain y ffordd ar y gwaith gwerth £12 miliwn i drawsnewid Ffordd y Brenin yn amgylchedd gwyrddach a mwy pleserus, ynghyd â phrosiect gwerth £3m i wneud Wind Street yn gyrchfan mwy addas i deuluoedd.

Meddai Alan sydd hefyd yn llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe, “Rwy’n croesawu’r holl waith adfywio sy’n parhau i ddigwydd yn ein dinas, diolch i gyngor dynamig, cyfoes ei feddwl, a’i bartneriaid datblygu.

“Yr hyn sy’n arbennig o galonogol yw’r cyfleoedd i fusnesau lleol elwa o’r gwaith adfywio hyn drwy gaffael, sydd o bwys enfawr i’r economi leol.

“Mae’r holl gynnydd a wnaed drwy gydol y pandemig wedi creu argraff arnom. Mae datblygiad Bae Copr yn rhoi ymdeimlad o obaith i gymuned fusnes y ddinas, ac mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn newid pethau’n sylweddol i’r rhanbarth gyfan sydd wedi rhoi hwb i hyder.

“Nid siarad mo’r cynlluniau adfywio mwyach – maen nhw’n digwydd mewn difrif, ac mae’r ddinas a’r dinas-ranbarth ehangach ar y trywydd iawn.

“Rwy’n credu bod y bont sy’n cysylltu canol y ddinas ag Arena Abertawe sy’n cael ei chodi nawr yn wych – mae’n gyfoes ac yn dra modern. Mae’r mannau gwyrdd ar Ffordd y Brenin hefyd yn dechrau dod yn fyw, ac mae’r cynllun a’r golwg newydd yn creu naws gyfandirol.

“Mae hefyd yn galonogol gweld faint o lety i fyfyrwyr sy’n cael ei ddatblygu yn y ddinas, sy’n adeiladu ar gryfder ein prifysgolion o’r radd flaenaf a’u campysau newydd ar y glannau. Mae gwaith adeiladu fel hyn yn rhoi cyfleoedd cadwyni cyflenwi i fusnesau lleol a hefyd yn golygu bod mwy o bobl yn dod i ganol y ddinas. Bydd hyn yn cynhyrchu mwy o wariant yn ein busnesau presennol, wrth annog rhagor o fusnesau fel caffis a bwytai i agor yno yn y dyfodol.”

Meddai Natasha, “Fel cyd-berchennog un o’r asiantaethau cyfathrebu mwyaf hir-sefydlog yn Abertawe, sydd yng nghanol y gwaith adfywio cyfredol, mae’r ffordd y mae datblygiadau Bae Copr, Ffordd y Brenin a Wind Street wedi dod yn eu blaen wedi creu argraff arnaf.

“Rwyf wedi byw a gweithio yn Abertawe am y rhan fwyaf o’m bywyd ac rwy’n falch o wneud hynny, ond ni fu erioed amser mor gyffrous i fod yn rhan o stori Abertawe. Fel nifer o fusnesau lleol, mae MGB yn ymroddedig i ddyfodol tymor hir yng nghanol dinas Abertawe ac mae ei gweld yn dod i’r amlwg fel dinas llawn hyder, sy’n barod ar gyfer rhagor o fuddsoddiad, yn meithrin hyder ynom mai dyma’r penderfyniad iawn i ni fel cwmni.”

Mae cynlluniau eraill sydd ar ddod yng nghanol dinas Abertawe’n cynnwys adeiladu datblygiad swyddfeydd uwch-dechnoleg yn 71/72 Ffordd y Brenin. Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir ar y cynllun hwn, a arweinir gan y cyngor ac a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi.

The Copr Bay phase one district including Swansea Arena is being developed by Swansea Council and advised by development manager RivingtonHark.

Ambassador Theatre Group (ATG) will operate the Swansea Arena, once it’s open.

Cyngor Abertawe sy’n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd datblygwr ar gyfer cam dau Bae Copr a nifer o safleoedd eraill yn Abertawe yn cael eu penodi yn ddiweddarach eleni fel rhan o fenter Adfywio Abertawe.

Alan Brayley and Natasha Fulfrod

Alan Brayley and Natasha Fulfrod