ATG yn cyhoeddi fideo o’r awyr newydd sy’n mynd â gwylwyr i mewn i Arena Abertawe

12 Mehefin 2021

Mae fideo o'r awyr digidol trawiadol yn dangos sut bydd y tu mewn i Arena Abertawe yn edrych ar ôl iddi agor.

Ynghyd ag argraffion arlunydd, mae’r fideo’n tynnu sylw at ddyluniad a phensaernïaeth yr atyniad y bydd Ambassador Theatre Group (ATG) yn ei gynnal.

Mae Arena Abertawe yn un o nodweddion ardal cam un Bae Copr sy’n werth £135 miliwn a arweinir gan Gyngor Abertawe ac a gynghorir gan y rheolwr datblygu RivingtonHark. Mae nodweddion eraill yn cynnwys pont Bae Copr, parc arfordirol, fflatiau, lleoedd busnes a mannau parcio.

Bydd yr arena sydd â lle i 3,500 o bobl yn cynnwys:

  • Awditoriwm y gellir ei rannu er mwyn creu mannau ar wahân, gyda’r lefel uwch yn cael ei thrawsnewid yn ardal gynadledda ar gyfer cyfleusterau gwledda
  • Lolfa VIP â lle i 175 o bobl
  • Naw uned bwyd a diod

Disgwylir i’r arena, sydd â ffasâd LED, gynnal berfformiadau’r flwyddyn gan gynnwys digwyddiadau cerddoriaeth, comedi, e-chwaraeon a chynadleddau, i oddeutu 230,000 o ymwelwyr.

Mae’r gwaith i adeiladu cam un bae Copr, dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, yn debygol o gael ei orffen yn ôl y rhaglen yr hydref hwn.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Bydd Arena Abertawe, a gynhelir gan ATG ar ran y cyngor, yn atyniad eiconig yng nghanol ardal newydd cam un Bae Copr y ddinas, a disgwylir i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn yr hydref

“Mae cyffro’n dechrau cynyddu’n barod gyda mwy a mwy o gynnydd i’w weld ar y safle bob dydd, ond bydd y fideo o’r awyr newydd a thrawiadol hwn yn helpu i gynyddu disgwyliad yn Abertawe a’r tu hwnt. Mae’n dangos sut bydd yr arena, unwaith y bydd wedi’i chwblhau ac yn weithredol, yn gyfleuster penigamp a fydd yn rhoi cyfle i bobl leol fwynhau’r adloniant gorau, cynadleddau a digwyddiadau eraill.

“Bydd cam un Bae Copr hefyd yn creu cannoedd o swyddi i bobl leol, ac mae ein buddsoddiad wedi sbarduno cryn ddiddordeb gan y sector preifat yn ein dinas. Bydd cynlluniau o’r math hwn – ar y cyd â llawer o rai eraill – yn trawsnewid Abertawe yn un o ddinasoedd gorau’r DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi. Maent hefyd yn golygu bod economi Abertawe mewn sefyllfa gref i adfer yn gyflym o effaith economaidd y pandemig.

Bydd y dechnoleg sydd wedi’i gosod yn Arena Abertawe yn sicrhau bod digwyddiadau bywyd go iawn a hybrid yn gallu cael eu cynnal yno, gan groesawu’r duedd gyfredol am bresenoldeb rithwir a fydd yn parhau’r tu hwnt i’r pandemig.

Meddai Lisa Mart, Rheolwr Cyffredinol Arena Abertawe, “Rydym yn lleoliad adloniant amlbwrpas, felly er bydd y rhan fwyaf o’n harchebion yn berfformwyr cerddorol, rydym hefyd yn mynd i gynnal perfformiadau comedi, theatr gerdd o’r radd flaenaf a phethau fel e-chwaraeon, gemau cyfrifiadurol a hyd yn oed reslo oherwydd mae hyblygrwydd ein lleoliad yn golygu y gellir llwyfannu gwaith ar ffurf theatr gylch.

“Mae Arena Abertawe’n ddiderfyn o ran yr holl bethau y gall eu cynnig.”

Mae’r arena hefyd yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau a ariennir yn rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Ariennir pont Bae Copr yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.