Dywedodd Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, fod y cyfuniad o gynlluniau cyfredol â rhai ar gyfer y dyfodol yn golygu y gall Abertawe fod ar y blaen o ran cyrraedd uchelgeisiau agenda werdd.
Hacer Developments o Abertawe sy’n gyfrifol am y cynlluniau ‘adeilad byw’ ar gyfer hen uned Woolworths yng nghanol y ddinas. Bydd y datblygiad newydd, y disgwylir iddo gael ei gwblhau tua diwedd 2023, yn cynnwys tŷ gwydr trefol arddull fferm a adeiladir dros bedwar llawr, fflatiau preswyl, siopau a swyddfeydd.
Bydd waliau byw a thoeon byw hefyd, yn ogystal â phaneli solar ar doeon, storfeydd batri solar a gerddi.
Dywedodd Carwyn fod gwaith gwerth £12m Cyngor Abertawe i drawsnewid Ffordd y Brenin wedi helpu i sbarduno’r cynlluniau datblygu hyn, gyda chynlluniau fel ardal Cam Un Bae Copr gwerth £135m hefyd yn rhoi mwy a mwy o hyder i’r sector preifat fuddsoddi yn Abertawe.
Meddai Carwyn, “Mae Abertawe ar daith adfywio hynod gadarnhaol, a arweinir gan y cyngor, sy’n gweithio mewn partneriaeth agos â’r sector preifat a sefydliadau eraill, yr ydym am fod yn rhan ohoni fel cwmni lleol ag ethos lleol sy’n canolbwyntio ar fod o fudd i fusnesau cadwyni cyflenwi lleol.
“Bydd datblygiad Bae Copr, gan gynnwys yr arena, yn denu llawer mwy o bobl i ganol y ddinas, gyda Ffordd y Brenin wyrddach bellach yn edrych yn lle llawer mwy addawol ar gyfer busnesau a bywyd dinesig.
“Mae’r gwyrddni yno’n wych, ond ni all fod yn esthetig yn unig. Mae’r cyfuniad o’n hadeilad bioffilig â thoeon gwyrdd eraill, waliau byw a chynlluniau sero carbon a gynlluniwyd yn Abertawe yn golygu y gall y ddinas gystadlu â’r goreuon o ran yr agenda werdd oherwydd ein maint a’n graddfa. Mae gennym gyfle go iawn i fod ar flaen y gad.”
Mae cynlluniau sero carbon eraill sydd wedi’u cynllunio yn Abertawe’n cynnwys y datblygiad swyddfa newydd sy’n cael ei gynllunio ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin. Bydd y datblygiad hwn, dan arweiniad Cyngor Abertawe ac sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cynnwys to gwyrdd, paneli solar a system dal dŵr glaw.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y datblygiad hwnnw’n fuan, gan fod y cyngor wedi penodi Bouygues UK fel ei brif gontractwr.
Dywedodd Carwyn y bydd cyflwyno lleoedd gwaith mwy gwyrdd a hyblyg o’r math hwn yn helpu i ddiwallu anghenion pobl, wrth i’r ddinas ddod allan o’r pandemig.
Meddai, “Mae’n anochel y bydd amgylcheddau swyddfa’n newid oherwydd y duedd i weithio gartref yn ystod y pandemig. Efallai nad rhesi o ddesgiau yw’r ffordd ymlaen yn awr, a disgwylir i leoedd gwaith ddod yn fwy hyblyg ac yn wyrddach.
“Felly y bydd hi yn ein datblygiad ni hefyd, gyda dadansoddiadau’n cael eu cynnal ar sut mae’r amgylcheddau hyn yn gwneud lles i bobl sy’n byw ac yn gweithio yno.”
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr