Bydd Bae Copr, sydd wedi’i leoli rhwng y traeth a chanol y ddinas, yn gyrchfan bywiog a chofiadwy a fydd yn apelio at gynulleidfa eang o breswylwyr, gweithwyr lleol, myfyrwyr a thros 4.7 miliwn o dwristiaid y flwyddyn. Bydd cynnig y cyrchfan hwn, sydd eisoes yn gatalydd mawr ar gyfer newid yn y ddinas, a’i gyfleusterau a’i fannau agored yn denu rhagor o bobl, busnesau a buddsoddiad i’r ddinas.
Yn ogystal â chreu cymdogaeth drefol newydd ar gyfer y ddinas, bydd Bae Copr yn datblygu dyheadau Abertawe i fod yn gyrchfan hamdden arweiniol, gydag adloniant, celfyddydau a diwylliant o’r radd flaenaf.