Cynnig i sefydlu parc dros dro ar gyfer canol dinas Abertawe

20 Mai 2021

Bydd parc dros dro a fydd yn cynnwys mannau gwyrdd, cyfleusterau chwarae a chynwysyddion lliwgar ar gyfer busnesau bwyd a diod newydd yn cael ei gyflwyno yng nghanol dinas Abertawe.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o gynnig dwy flynedd dros dro ar gyfer safle sydd wedi’i amgylchynu â hysbysfyrddau ar hyn o bryd yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant lle bu nifer o unedau manwerthu ar un adeg. Roedd y rhain yn cynnwys Cwtch Café, sydd bellach wedi adleoli i Caer Street.

Bydd y parc dros dro bioamrywiol, sydd wedi’i ddatblygu gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Urban Foundry, yn cynnwys gardd law a chymysgedd o blanhigion, toeon byw, seddi a chysgodfeydd beiciau.

Ceisir busnesau bach newydd lleol i gynnal dau gynhwysydd bwyd a diod ar y safle i gefnogi ymhellach adferiad economaidd y sector o COVID-19.

Bwriedir cael cynhwysydd cymunedol hefyd i’w ddefnyddio gan ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau’r trydydd sector a’r cyngor.

Mae holl nodweddion y parc dros dro a’r cynwysyddion yn cael eu dylunio’n hyblyg, fel y gellir eu defnyddio mewn mannau eraill yng nghanol y ddinas mewn blynyddoedd i ddod.

Gallai gwaith ar y parc dros dro gychwyn yr haf hwn a’i gwblhau yn yr hydref.

Mae dymchwel adeilad Llys Dewi Sant a maes parcio aml-lawr Dewi Sant hefyd yn rhan o’r cynnig dwy flynedd dros dro hwn ar gyfer yr ardal amgylchynol.

Caiff deunyddiau’r adeiladau a ddymchwelir eu hailddefnyddio fel rhan o arwyneb dros dro ar y safle erbyn diwedd 2021. Caiff lle parcio newydd ei gyflwyno’n fuan fel rhan o ardal Cam Un Bae Copr y cyngor.

Cyflwynir goleuadau newydd hefyd ar y safle ynghyd â gwybodaeth i ddangos sut bydd yr ardal yn edrych yn y dyfodol.

Mae’r cyngor yn rhagweld y caiff datblygwr ei benodi’n ddiweddarach eleni er mwyn adfywio’r safle’n gyffredinol yn y blynyddoedd i ddod fel rhan o’i fenter Adfywio Abertawe.

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Bydd y cynnig yn helpu i roi bywyd newydd i’r ardal er mai lle dros dro yn unig fydd y parc dros dro nes bod y gwaith terfynol i ailddatblygu’r ardal yn cael ei gwblhau.

“Mae’n llwybr allweddol i gerddwyr rhwng canol y ddinas ac ardal newydd Cam Un Bae Copr, gan gynnwys Arena Abertawe, pont go arbennig a digon o leoedd parcio, felly mae’n bwysig ei fod yn aros ar agor yn lle cael ei amgylchynu gan hysbysfyrddau.

“Bydd y cynllun dros dro hwn yn sicrhau diogelwch, bywiogrwydd a hygyrchedd parhaus y safle a hefyd yn ychwanegu mwy o wyrddni, bioamrywiaeth a gweithgarwch i ganol y ddinas, gan greu man cwrdd pellach i bobl sy’n cadw at y canllawiau COVID-19 diweddaraf.

“Ystyrir digwyddiadau dros dro hefyd ar gyfer y safle dros dro hwn i ddenu rhagor o ymwelwyr a gwariant, gyda ffocws ar fusnesau newydd lleol ar gyfer yr unedau bwyd a diod i gefnogi ymhellach adferiad economaidd ein dinas o’r pandemig.”

Meddai Fran Rolfe, Swyddog yr Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru, “Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, credwn fod parciau a mannau gwyrdd yn gynhwysyn hanfodol mewn dinas hapus ac iach. Maent yn dda ar gyfer bywyd gwyllt, ansawdd aer a dŵr yn ogystal ag ar gyfer iechyd a lles pobl.

“Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu lleoedd y gall busnesau lleol eu defnyddio, gan ddod â buddion natur yn agosach i bobl yng nghanol y ddinas.”

Bydd galwad am fynegiannau o ddiddordeb yn cael ei wneud cyn bo hir am fusnesau newydd lleol â diddordeb mewn rhedeg yr unedau bwyd a diod ar delerau hyblyg, yn amodol ar gael caniatâd cynllunio.

Buckingham Group Contracting Ltd – prif gontractwr y cyngor ar gyfer ardal Cam Un Bae Copr – fyddai’n gwneud y gwaith arfaethedig.