Rhoddwyd taith dywys i Robert Jenrick, Ysgrifennydd Gwladol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan y Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe.
Mae Cam Un Bae copr yn cynnwys safle Arena Abertawe, parc arfordirol 1.1.erw, pont Bae Copr, fflatiau, mannau parcio newydd a lle i fusnesau.
Arweinir y prosiect, sy’n werth £17.1 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe, gan Gyngor Abertawe sy’n cael ei gynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.
Buckingham Group Contracting Limited sy’n gyfrifol am y gwaith adeiladu, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn hydref 2021.
Y cyngor sy’n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Ariennir pont Bae Copr, sy’n rhan o’r cynllun, yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae ail gam datblygiad Bae Copr wedi’i gynllunio hefyd, a fydd yn cynnwys hwb sector cyhoeddus newydd. Bydd y cam hwn yn werth £106 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae’r cynnydd ar waith adeiladu Cam Un Bae Copr wedi bod yn sylweddol drwy gydol y pandemig, felly bu’n bleser tywys y ddau ysgrifennydd gwladol o gwmpas y datblygiad a gaiff ei orffen yn yr hydref.
“Mae’r cam hwn o’r gwaith fodd bynnag yn gatalydd ar gyfer hyd yn oed mwy o fuddsoddiad fel rhan o gam dau, sy’n werth chwe gwaith cymaint a bydd naill ai’n creu neu’n sicrhau miloedd o swyddi â chyflogau da yn Abertawe, gan helpu i gynorthwyo ag adferiad ein dinas o COVID-19.
“Er na fydd cam dau yn brosiect Bargen Ddinesig, edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddenu cefnogaeth o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Codi’r Gwastad.”
Meddai’r Ysgrifennydd Cymunedau, Robert Jenrick AS, “Roedd y prosiectau arloesedd y llwyddais i’w gweld gyda’m llygaid fy hun ar fy nhaith o gwmpas Bae Copr, ac a wnaed yn posib drwy Fargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe, wedi creu cryn argraff arnaf.
“Fe fydd yr arena gwbl gyfoes a’r ardal o’i chwmpas yn dod yn gyrchfan ar gyfer digwyddiadau arweiniol yn ogystal ag i fyfyrwyr ac ymwelwyr â’r ardal, gan ryddhau potensial creadigol ac economaidd Abertawe.
“Mae’r Llywodraeth hwn yn codi’r gwastad ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae Bae Copr, gyda chymorth £115 miliwn o gyllid y Llywodraeth, yn helpu i wneud Abertawe yn lle gwell fyth i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.”
Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru,”Wrth i ni fynd ati i adfer o’r pandemig, yn well ac yn gryfach, bydd prosiectau fel adfywio’r rhan hon o Abertawe yn dangos sut rydym yn dod â swyddi, twf ac arloesedd i’n cymunedau.
“Mae cyflwyno prosiectau trawsnewidiol ledled Cymru yn brif flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth y DU ac yn rheswm pam rydym wedi cefnogi bargenion twf ym mhob rhan o’r wlad.
“Edrychaf ymlaen at gynnydd parhaus y prosiect wrth iddo helpu i ryddhau potensial Abertawe a rhanbarth ehangach y Fargen Ddinesig.”
Disgwylir i ddatblygwr gael ei benodi yn ddiweddarach yn y flwyddyn i arwain cam dau Bae Copr fel rhan o’r fenter Adfywio Abertawe.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr