CYTUNDEB TAI FFORDDIADWY WEDI'I LOFNODI FEL RHAN O'R GWAITH GWERTH £1 BILIWN I ADFYWIO ABERTAWE

8 Rhagfyr 2020

Mae Cyngor Abertawe wedi llofnodi cytundeb gyda Pobl Group, Landlord Cymdeithasol Cofrestredig mwyaf Cymru, i reoli 33 o fflatiau fforddiadwy fel rhan o Gam Un prosiect Adfywio Bae Copr.

Mae’r cynllun defnydd cymysg £135 miliwn yn un o sawl datblygiad creadigol mewn rhaglen uchelgeisiol gwerth £1 biliwn, gan ei wneud yn un o’r trawsnewidiadau trefol mwyaf sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Ewrop.

"Mae hyn yn golygu bod y cynllun yn ein helpu i wireddu, yn ystod y gwaith adeiladu ac o'r agoriad, ein cynlluniau uchelgeisiol am swyddi, manteision economaidd a chartrefi mewn amgylchedd dengar a chynaliadwy."

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Bydd Cam Un Bae Copr ar ei ben ei hun yn cynhyrchu GYC gwerth £73.3 miliwn ychwanegol i’r economi leol yn ystod y gwaith datblygu ac o leiaf £17.1 miliwn y flwyddyn pan fydd yn weithredol. Yn ystod y cam datblygu, caiff tua 1,260 o swyddi adeiladu eu creu yn Abertawe. Pan fydd yn weithredol, bydd yn creu 593 o swyddi ychwanegol net yn yr economi leol, gyda tharged o 70 y cant i’w llenwi gan breswylwyr lleol.”

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae hyn yn golygu bod y cynllun yn ein helpu i wireddu, yn ystod y gwaith adeiladu ac o’r agoriad, ein cynlluniau uchelgeisiol am swyddi, manteision economaidd a chartrefi mewn amgylchedd dengar a chynaliadwy.”

Sefydliad nid er elw yw Pobl sy’n rheoli dros 15,000 o gartrefi ledled Cymru. Mae gan y grŵp 36 o ddatblygiadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ac mae 1,234 o gartrefi’n cael eu hadeiladu hefyd.

Yn Abertawe, disgwylir i ddatblygiad Pobl, sef 52 o fflatiau yn Orchard House, gael ei gwblhau ym mis Mawrth, a rhagwelir y bydd y cynllun Byw Bioffilig arloesol, lle caiff 50 o fflatiau eu codi ar safle hen siop Woolworth, yn cychwyn yn y gwanwyn. Mae gwaith ar fin cychwyn ar brosiect cydweithredol gyda Coastal Housing i ddatblygu cymuned newydd o 144 o gartrefi dim carbon i’r gorllewin o’r ddinas.

Bydd yr holl fflatiau yng Ngham Un Bae Copr yn gartrefi fforddiadwy, ar gyfer y rheini sy’n gweithio yng nghanol dinas Abertawe, yn enwedig gweithwyr allweddol. Bydd y cartrefi hyn a ariennir gan Pobl Group a Llywodraeth Cymru yn cynnwys 13 o fflatiau un ystafell wely i hyd at ddau berson ac 20 o fflatiau dwy ystafell wely i hyd at dri pherson. Ariennir Cam Un Bae Copr gan Gyngor Abertawe, ac mae arena perfformiadau byw â lle i 3,500 o bobl a chanolfan gynadledda’n ganolog iddo. Fe’i hariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, buddsoddiad £1.3 biliwn a sefydlwyd ar gyfer prosiectau datblygu pwysig yn rhanbarth de Cymru. Gweithredir yr arena gan yr arweinydd byd-eang ym myd theatr fyw, The Ambassador Theatre Group (ATG).

Mae fersiwn Saesneg Bae Copr, yr enw parhaol newydd ar gyfer y datblygiad a alwyd yn flaenorol yn ‘Abertawe Ganolog’, yn defnyddio’r sillafiad Cymraeg ar gyfer copr i ddatgan cyfraniad blaenllaw’r ddinas ar draws y byd yn ystod y chwyldro diwydiannol ac mae’n dathlu ei harfordir byd-enwog. Bydd yn dod â diwylliant, adloniant a hamdden ynghyd, ac yn cysylltu canol y ddinas â’r marina a’r traeth tywodlyd eang drwy bont arbennig newydd i gerddwyr a beicwyr, sy’n cyfuno gwell ffyrdd o fynd a dod a dyluniad eiconig.

Yn ogystal â’r parc arfordirol a’r bont, mae’r cynllun yn cynnwys arena perfformiadau byw â lle i 3,500 o bobl a chanolfan gynadledda, a gwesty gyda hyd at 150 o ystafelloedd, rhagor o fwytai, mannau cyhoeddus eang a’r cartrefi newydd. Cyflwynir y cynllun gan Gyngor Abertawe drwy weithio gyda’r rheolwr datblygu RivingtonHark, un o arbenigwyr trawsnewid eiddo tiriog dinasoedd a chanol trefi arweiniol.

Meddai Amanda Davies, Prif Weithredwr Grŵp Pobl Group, “Mae datblygiad Bae Copr yn ychwanegiad pwysig at y ddinas. Mae e yn ward y Castell y ddinas, lle mae angen cryf am fwy o dai fforddiadwy ac yn pwysleisio ymrwymiad y cyngor i fynd i’r afael ag anghenion llety’r ardal. Mae’r cartrefi newydd mewn lleoliad gwych, yn agos i’r parc arfordirol newydd, a byddant yn darparu llety o safon mawr ei angen ar gyfer y gymuned leol.”

Mae Cyngor Abertawe’n bwriadu dyblu isadeiledd gwyrdd y ddinas dros y ddeng mlynedd nesaf, gan gynnwys ‘prif wythïen werdd’ a fydd yn cysylltu gorsaf Abertawe â’r traeth a’r marina trwy blannu planhigion ac ymyriadau meddal gan gynnwys parc arfordirol 1.1 erw Bae Copr. Mae’r cynllun yn glynu wrth Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddf hon, sy’n unigryw i Gymru, yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith tymor hir penderfyniadau i leihau tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae hon yn sail i nod Cyngor Abertawe sef bod yn sefydliad di-garbon net erbyn 2030, a gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y ddinas sef iddi fod yn ddi-garbon net erbyn 2050, targed y cytunwyd arno gan Gabinet y cyngor ym mis Tachwedd 2020.

Y parc arfordirol newydd yw’r parc cyntaf i’w adeiladu yn y ddinas ers Oes Victoria a bydd yn darparu mannau gwyrdd deniadol a chyfleusterau ar gyfer digwyddiadau awyr agored. Bydd yn ehangu ‘r brif wythïen yn y ddinas, yn creu cartref i fywyd gwyllt lleol a lle i breswylwyr lleol ymlacio. Mae cynlluniau ar y gweill i osod WiFi ar draws y cynllun, gan gynnwys drwy’r holl barc arfordirol, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y duedd gynyddol o weithio o bell.

Bydd Cam Dau Bae Copr yn cynnwys cartrefi ychwanegol, unedau manwerthu a swyddfeydd, fel swyddfeydd canolog i weithwyr y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys swyddfeydd newydd ar gyfer busnesau bach a chychwynnol, yn enwedig fel lle cychwyn busnes i ddarparu ar gyfer anghenion myfyrwyr sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd yn y ddinas ar ôl iddynt raddio.

Computer generated image of Wassail Street

CGI of Wassail Street

Cupid Way development CGI

CGI of Wassail Street