Datblygiad yn creu argraff ar Lisa, Rheolwr yr Arena

18 Mehefin 2021

Mae rheolwr cyffredinol newydd Arena Abertawe, Lisa Mart, yn dweud bod y datblygiad newydd yn edrych yn drawiadol iawn.

Cafodd Lisa o ATG (Ambassador Theatre Group), gweithredwr yr arena gip y tu ôl i’r llenni ar yr atyniad sy’n cael ei adeiladu ar safle drws nesaf i’r LC yng nghanol y ddinas.

Mae’r arena’n un o nodweddion ardal Cam Un Bae Copr gwerth £135m sy’n dod i’r amlwg. Gyda’r gwaith adeiladu i fod i gael ei gwblhau yn yr hydref, mae’r ardal hefyd yn cynnwys pont Bae Copr a pharc arfordirol newydd, yn ogystal â chartrefi, busnesau a lleoedd parcio newydd.

Lisa Mart at the Arena construction site

Meddai Lisa, “Wrth i chi gerdded i mewn i awditoriwm yr arena, rydych chi’n cael teimlad ‘waw’! Rwy’n edrych ymlaen at glywed cerddoriaeth fyw yma, dwi’n meddwl y bydd yr acwstig a’r awyrgylch yn wych.

“Mae’r gwaith adeiladu’n dod ymlaen yn dda, bob tro rydym yn ymweld â’r arena mae mwy a mwy o fanylion i’w gweld. Mae’n wych gweld faint o waith adeiladu sydd wedi mynd rhagddo yn ystod y pandemig.”

Datblygir cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe ac fe’i cynghorir gan y rheolwr datblygu RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd. sy’n arwain y gwaith adeiladu.

Cyngor Abertawe sy’n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Ariennir pont Bae Copr yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.