Ffilm o’r awyr yn recordio cynnydd yr arena

24 Gorffennaf 2020

Mae lluniau drôn anhygoel yn cynnig golwg drawiadol o’r awyr o gynnydd cynllun Cam Un Bae Copr gwerth £135 miliwn.

Mwynhewch y ffilm hon a dynnwyd gan drôn hanner ffordd drwy’r broses adeiladu.

It offers a spectacular bird’s-eye view of progress on the £135m Copr Bay Phase One scheme.

Gallwch weld y gwaith bron â’i gwblhau ar fframiau dur enfawr y prosiect.

Mae’r arena sydd â lle i 3,500 o bobl yn cael ei chodi wrth ymyl yr LC, ar safle hen faes parcio Heol Ystumllwynarth, yn ogystal â’i dau lawr parcio cyfagos gyda pharcdir i ddod ar ei phen.

Draw ar ochr arall y brif ffordd – rhwng Tesco ac Iceland – y mae ffrâm ddur maes parcio aml-lawr mwy o faint a chraidd concrit bloc a fydd yn gartrefi ac yn unedau masnachol.

Bydd pont droed lydan dirnod yn cysylltu’r ddwy ochr.

Diolch am y lluniau a’r ffilm: Buckingham Group Contracting a Global Drone Surveys.

Rhagor: www.swansea.gov.uk/SkylineSteel