Mae’r fideo a’r lluniau’n rhoi’r golwg o’r awyr diweddaraf o atyniadau gan gynnwys Arena Abertawe, y parc arfordirol 1.1 erw a phont nodedig Bae Copr.
Bydd yr atyniadau newydd hyn yn cyfuno â fflatiau newydd fforddiadwy, mannau busnes a digon o leoedd parcio sy’n rhan o gam un Bae Copr sy’n werth £135m.
Datblygir cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe ac fe’i cynghorir gan y rheolwr datblygu RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd. sy’n arwain y gwaith adeiladu.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae’r ffilm fideo a’r lluniau newydd trawiadol yn dangos hyd yn oed mwy o gynnydd yn y gwaith i adeiladu ardal cam un Bae Copr sy’n cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, parc arfordirol pwysig newydd, pont nodedig Bae Copr a llawer o nodweddion eraill.
“Mae cynnydd y gwaith adeiladu drwy gydol y pandemig wedi bod yn sylweddol, sy’n dyst i waith pawb sydd ynghlwm wrth y cynllun – o swyddogion y cyngor a’n prif gontractwr i’n rheolwyr datblygu ac is-gontractwyr, sydd wedi glynu wrth arferion gweithio sy’n ddiogel o ran COVID ar bob adeg.
“Gan ei bod yn debygol y bydd y gwaith i adeiladu’r ardal newydd fywiog hon yn cael ei gwblhau yn yr hydref, mae’n golygu bod economi Abertawe mewn sefyllfa gref iawn i adfer o effaith COVID-19.
“Mae’r cynllun yn rhan o stori adfywio gwerth £1biliwn a fydd yn trawsnewid Abertawe yn un o’r lleoedd gorau i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef.”
Ambassador Theatre Group (ATG) fydd yn rhedeg Arena Abertawe unwaith y bydd ar agor.
Cyngor Abertawe sy’n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ariennir pont Bae Copr yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr