Gallwch gael y diweddaraf ar gynnydd Bae Copr drwy gyfryngau cymdeithasol

21 Mehefin 2021

Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol newydd wedi'u lansio i helpu i roi'r diweddaraf i bobl ar gynnydd ardal cam un Bae Copr newydd Abertawe.

Mae cyfrifon Bae Copr yn fyw yn awr ar:

Mae ardal cam un Bae Copr sy’n werth £135 miliwn yn cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, parc arfordirol 1.1 erw, pont Bae Copr, fflatiau, mannau parcio newydd a lle i fusnesau.

Arweinir y prosiect, sy’n werth £17.1 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe, gan Gyngor Abertawe sy’n cael ei gynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.

Buckingham Group Contracting Limited sy’n gyfrifol am y gwaith adeiladu, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn hydref 2021.

Y cyngor sy’n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Ariennir pont Bae Copr, sy’n rhan o’r cynllun, yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae’n gyfnod cyffrous i ganol dinas Abertawe gyda’n hardal cam un Bae Copr yn gwneud mwy a mwy o gynnydd bob dydd.

“Bydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Bae Copr yn rhoi cyfle gwych i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr â’r ddinas gael y diweddaraf ar y cynnydd – yn ogystal â’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol – felly byddwn yn annog pobl i’w dilyn.

“Yn ogystal â rhoi trosolwg o’r hyn y gall pobl edrych ymlaen ato, byddant hefyd yn cynnwys y lluniau, y newyddion, y fideos a’r cyfweliadau diweddaraf am yr ardal, a disgwylir i’r gwaith adeiladu orffen yn yr hydref.”

Cynllunnir ail gam o ddatblygiad Bae Copr hefyd. Bydd y cam hwn, sy’n cynnwys hwb sector cyhoeddus newydd, yn werth £106 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.

Disgwylir i ddatblygwr gael ei benodi yn ddiweddarach yn y flwyddyn i arwain cam dau Bae Copr fel rhan o’r fenter Adfywio Abertawe.