Gwaith i adeiladu bwyty’r parc arfordirol bron â chael ei gwblhau

12 Hydref 2021

Mae'r gwaith i adeiladu'r bwyty newydd ym mharc arfordirol newydd Abertawe bron â chael ei gwblhau.

Mae’r sgaffaldau wedi’u tynnu o’r bwyty 1,400 troedfedd sgwâr, y bydd lle i oddeutu 60 o bobl ynddo, ynghyd â seddi’r tu allan.

Bydd yr allweddi i’r bwyty’n cael eu trosglwyddo cyn bod hir i’r gweithredwyr – The Secret Hospitality Group – a fydd wedyn yn dechrau’r gwaith dodrefnu mewnol ac yn gwneud cais am drwydded.

Mae The Secret Hospitality Group, a gynhelir gan Ryan a Lucy Hole, hefyd yn berchen ar The Secret Beach Bar & Kitchen ar Mumbles Road, yn ogystal â’r Optimist Bar & Kitchen yn ardal Uplands y ddinas.

Bydd y bwyty newydd, sydd yn y parc arfordirol 1.1 erw, yn rhan o gam un ardal newydd Bae Copr gwerth £135m sy’n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a’i gynghori gan y rheolwyr datblygu, RivingtonHark.

Mae nodweddion eraill yr ardal yn cynnwys Arena Abertawe, sydd â lle i 3,500 o bobl, a brydlesir ac a weithredir gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn ogystal â’r bont newydd dros Oystermouth Road, lle ar gyfer mannau hamdden a lletygarwch a digon o leoedd parcio.

Restaurant construction

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Dyma gam mawr arall ymlaen i ardal newydd Bae Copr y ddinas, sy’n werth cannoedd o swyddi a £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.

“Roedd bod o fudd i fusnesau lleol bob amser yn allweddol i’n cynlluniau, felly mae’n wych bod Ryan a Lucy wedi cytuno i redeg y bwyty newydd yn y parc arfordirol, drws nesaf i Arena Abertawe.

“Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt hefyd am brydlesu mannau ym Mae Copr a byddwn yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau’n fuan.”

Meddai Ryan Hole, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddodrefnu’r bwyty’n fewnol. Mae’n wych gweld Cyngor Abertawe yn rhoi cyfle i fusnesau lleol fel ein un ni. Bydd y bwyty mwyaf newydd yn y grŵp, fel y lleill, yn cael ei gynnyrch oddi wrth fusnesau lleol, gan helpu i gefnogi economi Abertawe ymhellach.”

Bydd y gwaith adeiladu ar gyfer cam un Bae Copr, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac arweinir gan Buckingham Group Contracting Ltd, yn cael ei gwblhau’n ddiweddarach eleni, a bydd yr arena’n agor ei drysau’n gynnar yn 2022.

Ariennir yr arena’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n werth £1.3bn, fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.