Gweinidog yn canmol adfywiad mawr parhaus Abertawe

19 Gorffennaf 2021

O gynllun mawr i warchod ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog i brosiect gwerth miliynau o bunnoedd sy'n gwella canol y ddinas, mae Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi gweld drosto'i hun raddfa enfawr y gwaith adfywio sy'n mynd rhagddo yn Abertawe.

Roedd y prosiectau yr ymwelodd Mr Gething â nhw yn cynnwys safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod-Morfa y ddinas, yn ogystal ag ardal cam un Bae Copr gwerth £135 miliwn.

Mae cwmni Penderyn Whisky yn bwriadu agor atyniad i ymwelwyr ar safle’r gwaith copr y flwyddyn nesaf, ynghyd â distyllfa ar y safle i ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni. Mae gwaith cadwraeth hefyd yn mynd rhagddo ar bwerdy ac adeiladau allanol y safle.

Mae ardal cam un Bae Copr yn cynnwys Arena Abertawe â lle i 3,500 o bobl a fydd yn cael ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group (ATG), parc arfordirol 1.1 erw, pont Bae Copr, fflatiau, lleoedd busnes a meysydd parcio newydd.

Cyngor Abertawe sy’n arwain y cynlluniau ar safleoedd y gwaith copr a Bae Copr.

Vaughan Gething inside the Arena during construction

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae’r cynlluniau hyn yn rhan o stori adfywio barhaus gwerth £1 biliwn yn Abertawe sy’n trawsnewid ein dinas yn un o ddinasoedd gorau’r DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi.

“Bydd y cynlluniau yn creu miloedd o swyddi i bobl leol, byddant o fudd i’n busnesau lleol ac yn denu buddsoddiad pellach gan y sector preifat i Abertawe. Maent hefyd yn golygu, ar y cyd â llawer o brosiectau eraill, fod economi Abertawe mewn sefyllfa dda i wella’n gyflym o effaith y pandemig.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i warchod hanes Abertawe a darparu dinas yn yr 21ain ganrif sy’n diwallu anghenion a dyheadau ein preswylwyr a’n busnesau.”

Vaughan Gething outside the Arena

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, “Roedd yn wych bod yn Abertawe i weld y cynnydd gwych sy’n mynd rhagddo ar ddau brosiect cyffrous iawn. Byddant yn helpu i ddiogelu gorffennol y ddinas a thrawsnewid ei dyfodol fel ei bod yn dod yn ddinas fywiog ac economaidd lwyddiannus rydym i gyd am iddi fod.

“Bydd datblygiad Bae Copr yn creu swyddi newydd yn niwydiannau’r dyfodol a bydd Gwaith Copr yr Hafod-Morfa yn helpu i ddiogelu treftadaeth gyfoethog y ddinas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae gan Abertawe ddyfodol cyffrous o’i blaen. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi’r cyngor wrth gyflwyno’r prosiectau trawsnewidiol hyn a fydd o fudd i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y ddinas ac yn ymweld â hi.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r cyngor a phartneriaid eraill yn y rhanbarth i greu Abertawe ag economi ffyniannus, deg, werdd lle nad oes unrhyw un yn cael ei rwystro na’i adael ar ôl.”

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannol-ariannu Arena Abertawe ym Mae Copr drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, ynghyd â phont Bae Copr drwy’r gronfa Teithio Llesol.

Mae cyllid Adfywio Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfrannu at waith ar safle gwaith copr yr Hafod-Morfa, yn ogystal â grant o £3.75 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.