Mae’r fideo diweddaraf yn dangos yr arena y tu ôl i’r llenni

22 Mehefin 2021

Mae'r fideo diweddaraf yn dangos cynnydd pellach ar ddatblygiad nodedig cam un Bae Copr sy'n cynnwys Arena Abertawe.

Mae’r fideo, a gymerwyd gan gamera GoPro, yn dangos nodweddion y datblygiad gwerth £135 miliwn gan gynnwys yr arena, â lle i 3,500 o bobl, yn dechrau datblygu.

Hefyd yn gynwysedig, mae lluniau o’r bont Bae Copr yn ogystal â’r safle ger yr arena lle mae parc arfordirol 1.1 erw yn cael ei ddatblygu.

Bydd yr atyniadau hyn yn cyfuno â fflatiau newydd fforddiadwy, mannau busnes a digon o leoedd parcio newydd sy’n rhan o’r cynllun.

Mae cam un Bae Copr, gwerth £17.1 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe unwaith y bydd yn weithredol, yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a’i gynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark. Disgwylir iddo gael ei gwblhau’r hydref hwn, a Buckingham Group Contracting Limited sy’n gyfrifol am y gwaith adeiladu.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Bydd yr arena’n atyniad arloesol yng nghanol ardal Bae Copr newydd y ddinas.

“Bydd yn gyfleuster o’r radd flaenaf a fydd yn helpu i ddod â’r adloniant, cynadleddau a digwyddiadau eraill gorau i Abertawe.

“Mae’r fideo newydd hwn yn rhoi cipolwg y tu ôl i’r llenni o’r arena i bobl, gyda’r broses adeiladu yn gwneud mwy a mwy o gynnydd bob dydd.”

Ambassador Theatre Group (ATG) fydd yn rhedeg Arena Abertawe unwaith y bydd ar agor.

Cyngor Abertawe sy’n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Ariennir pont Bae Copr yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Penodir datblygwr ar gyfer cam dau Bae Copr yn ddiweddarach eleni fel rhan o fenter Adfywio Abertawe Cyngor Abertawe.