Nenlinell abertawe’n newid wrth i strwythurau dur yr arena godi

Mae rhannau newydd o nenlinell Abertawe’n dod i’r amlwg wrth i fframiau dur arena dan do newydd y ddinas a’r adeiladau cysylltiedig godi.

Dechreuodd gwaith ar fframiau dur enfawr safle Cam Un Abertawe Ganolog gwerth £135 miliwn gael ei wneud ddydd Llun.

Nawr, mae rhan o fframwaith yr arena ar hen faes parcio Heol Ystumllwynarth, yn ogystal ag elfen ganolog o’r maes parcio aml-lawr ar ochr arall y ffordd. Mae’r olaf, yn 24m o uchder, yn sefyll uwchben maes parcio aml-lawr y Cwadrant gerllaw.

Mae’r ffrâm ddur yn cael ei gwneud mewn ffyrdd arloesol gan yr arbenigwyr sy’n ei chodi – er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â holl ganllawiau’r coronafeirws.

Meddai Rob Stewart, arweinydd y cyngor: “Mae’n galonogol gweld y nenlinell yn datblygu.

“Mae hyn yn dangos bod cynnydd yn cael ei wneud gyda’r cynllun hwn a fydd yn helpu i weddnewid Abertawe.

“Wrth i’r diwrnodau a’r wythnosau fynd rhagddynt, bydd llawer mwy o waith dur yn codi. Mae rhywbeth arbennig yn dod i’r amlwg o’r safle allweddol hwn.

“Rydym bob amser wedi dweud bod yr arena’n gatalydd allweddol i adfywio Abertawe a’r rhanbarth, a nawr – ar ôl y cyfyngiadau symud – bydd hyd yn oed yn fwy o eicon allweddol ac yn gatalydd ar gyfer adfer.

“Rwy’n diolch i’r gweithwyr yno – gan gynnwys llawer o Dde Cymru a’r arbenigwyr ffrâm ddur eu hunain – am wneud cynnydd wrth weithio yn unol â’r canllawiau diweddaraf. Maent yn cadw’r cynllun sylweddol hwn yn ddiogel ac yn gwneud cynnydd da yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Mae’r gwaith yn rhan o gynllun gweddnewid Cam Un Abertawe Ganolog y cyngor, sy’n werth £135 miliwn ac yn cynnwys parcdir newydd, cartrefi, unedau masnachol a bron 1,000 o leoedd parcio. Disgwylir i’r cyfan agor yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf.

Mae gwaith ar safle’r arena gan y prif gontractwr Buckingham Group Contracting Ltd (BGCL) wedi parhau yn ystod y cyfnod diweddar o gyfyngiadau, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth a’r diwydiant sy’n caniatáu i waith adeiladu barhau.

Mae posteri diogelwch i’w gweld ar y safle.

Teithiodd gweithwyr y ffrâm ddur eu hunain, tîm o hyd at 28, o bell i wneud y gwaith. Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, gwnaethant deithio mewn parau, fel y caniateir o dan y canllawiau. Yn ystod y gwaith, maent yn byw yn Abertawe mewn 14 o gyfeiriadau llety a rentir yn breifat yn yr un parau hynny – ac maent yn gweithio ar y safle yn y parau hynny.

Er mwyn helpu gyda’r mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae eu hamseroedd dechrau, egwyl a gorffen ar adegau gwahanol. Maent yn cael sesiynau briffio dyddiol am eu gwaith a mesurau’r coronafeirws.

Mae’r holl fesurau hyn yn helpu i sicrhau nad oes nifer fawr o bobl, ar unrhyw adeg, mewn unrhyw leoliad ar y safle.

Mae’r canllawiau sy’n cael eu dilyn yn cynnwys rhai’r Llywodraeth, yn ogystal â rhai cyrff y diwydiant, sef y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu a Chymdeithas Gwaith Dur Adeiladu Prydain.

Meddai Tim Wood, cyfarwyddwr prosiect BGCL ar y safle: “Mae’n braf gweld cannoedd o dunelli o ddur yn codi mor gyflym, effeithlon a diogel. Mae’r fframwaith yn gam hynod weladwy a chadarnhaol yn y prosiect anhygoel hwn.

“Mae gan BGCL fesurau cadarn i amddiffyn ei weithwyr, ei gleientiaid a’i gyflenwyr. Cynhelir asesiadau risg llawn ar gyfer y rhai ar y safle ac mae’r camau a gymerir yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol pan fo’n ddiogel ac yn ymarferol – yn unol â‘r canllawiau diweddaraf.”

Mae’r cwmnïau o Dde Cymru sydd ar y safle ar hyn o bryd yn cynnwys yr arbenigwyr sylfeini Evan Pritchard, Premier Groundworks Solutions, yr arbenigwyr concrit Thames Valley Construction, Bond Demolition, Rowecord Scaffolding, Site Electrical Services, Procomm Temporary Accommodation, Proctor Fencing, Quantum Geotechnic a Thrive Women’s Aid Cleaning Services.

Mae cannoedd o fusnesau o Gymru wedi mynd i’r digwyddiadau cwrdd â’r prynwr yn y misoedd diwethaf wrth i’r prif gontractwr Buckingham Group Contracting Ltd (BGCL) weithio’n galed i groesawu arbenigwyr rhanbarthol.

Dyfarnwyd y contract ffrâm ddur gan BGCL i is-gontractwr o’r Alban ddau fis yn ôl ar ôl proses dendro gystadleuol. Roedd eu cais buddugol yn cynnig y gwerth gorau ar gyfer y prosiect mewn dyfarniad yn seiliedig ar ansawdd, amserlenni, profiad a chost.

Mae un o’r ddau gwmni o Dde Cymru a ystyriwyd fel rhan o’r tendr hwnnw bellach yn gweithio gyda BGCL ar brosiect mawr yn Lloegr.

Meddai’r Cynghorydd Stewart: “Mae cynllun yr arena’n brosiect adfywio gweddnewidiol sy’n allweddol i gyflawni Abertawe ar gyfer yr 21ain ganrif. Byddwn yn gallu ei mwynhau pan fydd yr argyfwng ar ben.

“Mae’n braf gweld cwmnïau o Gymru a mannau eraill yn elwa o’r buddsoddiad. Rwy’n ddiolchgar iddynt am eu hymdrechion parhaus yn Abertawe.

“Rydym yn sicr eu bod yn gweithio’n ofalus ar y safle, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.”

Disgwylir i’r gwaith ffrâm ddur bara tua thri mis.

Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am Gam Un Abertawe Ganolog, gyda rhywfaint o gyllid ar gyfer yr arena’n dod o Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn. Daw rhywfaint o gyllid ar gyfer y bont newydd o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae’r canllawiau gweithleoedd diweddaraf yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru – Cadw pellter corfforol
  • Llywodraeth y DU – Cadw pellter cymdeithasol ym maes adeiladu
  • Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu – Gweithdrefnau gweithredu safleoedd y sector adeiladu
  • Cymdeithas Gwaith Dur Adeiladu Prydain – Gweithio gyda’n gilydd