Y camau nesaf yn cael eu cymryd mewn cynllun gwerth £1 biliwn i adnewyddu abertawe

27 Tachwedd 2019

Bydd y cynllun gwerth £1 biliwn i weddnewid canol dinas Abertawe’n cymryd cam mawr ymlaen y mis hwn gyda’r prif waith adeiladu ar un o ddatblygiadau blaenllaw’r gwaith adfywio, ‘Abertawe Ganolog’, yn dechrau ar y safle ar 27 Tachwedd. Rhan annatod o’r gwaith adnewyddu uchelgeisiol ledled y ddinas, sef cynllun Cam Un ‘Abertawe Ganolog’ gwerth £135 miliwn, yw rhanbarth diwylliannol newydd sy’n cwmpasu arena perfformiadau byw â lle i 3,500 o bobl a chanolfan gynadledda, gwesty â 150 o ystafelloedd, parc arfordirol, pont drawiadol i gerddwyr, cartrefi newydd, swyddfeydd a lle i werthu bwyd a diod, gan alluogi’r ddinas i wireddu ei photensial a bod yn un o’r lleoedd mwyaf cyffrous yn y DU i fyw, gweithio, ymweld ac astudio.

Mae Cam Un ‘Abertawe Ganolog’ yn cael ei ddarparu gan Gyngor Dinas Abertawe a’i ddatblygu gan RivingtonHark, y prif arbenigwr gweddnewid eiddo masnachol canol dinasoedd a threfi. Mae’n cael ei gyllido gan Gyngor Abertawe, gyda’r arena’n cael ei chyllido’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sef cronfa fuddsoddi gwerth £1.3 biliwn a sefydlwyd ar gyfer prosiectau gweddnewid mawr yn y rhanbarth hwn o Dde Cymru. Disgwylir cwblhau Cam Un ganol 2021 a chaiff ei angori gan yr arena amlddefnydd a’r ganolfan gynadledda, a weithredir gan Ambassador Theatre Group (ATG), arweinydd byd-eang ym maes theatr fyw. Nod y lleoliad yw llwyfannu 160 o berfformiadau’r flwyddyn ar draws comedi, theatr, cerddoriaeth fyw a gemau cyfrifiadur, gan ddenu dros 230,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r ddinas a lleoli Abertawe fel cyrchfan dymunol ar gyfer hamdden a busnes.

Delwedd wedi'i chreu gan gyfrifiadur o Arena Bae Copr

Yn ychwanegol, mae Cam Un yn cynnwys wal werdd a’r parc arfordirol 1.1 erw, gan ddarparu mannau gwyrdd deniadol, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer digwyddiadau awyr agored, y gwesty a 960 o leoedd parcio newydd ar draws y datblygiad. Ger marina prydferth Abertawe, bydd cynllun ‘Abertawe Ganolog’ yn cymryd y camau nesaf i gysylltu’r ddinas â’r traeth ysblennydd gyda help pont sylweddol i gerddwyr a beicwyr, sy’n cyfuno hydreiddedd gwell â dyluniad deniadol.

Mae Cam Dau o waith gweddnewid ‘Abertawe Ganolog’ hefyd yn mynd rhagddo gydag astudiaeth ddichonoldeb y dyluniad yn cael ei diweddaru. Bydd yn cynnwys rhagor o gartrefi newydd, swyddfeydd newydd, mannau manwerthu a hamdden, yn ogystal â mwy o dir y cyhoedd.

Abertawe Ganolog yw’r darn coll o’r jig-so a fydd yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas, ac yn atgyfnerthu ein bywiogrwydd economaidd yn fawr.

Meddai Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe: “Mae dechrau gwaith ‘Abertawe Ganolog’ ar y safle’n gam enfawr yn natblygiad Abertawe. O’n traeth ysblennydd a’n tirnodau hanesyddol i’n prifysgolion a sefydliadau o’r radd flaenaf, mae Abertawe’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd nad ydynt wedi’u gwerthfawrogi’n iawn am gyfnod rhy hir. Yn ogystal â’r prosiectau gweddnewidiol eraill sy’n cael eu cynnal ar draws y ddinas, ‘Abertawe Ganolog’ yw’r darn coll o’r jig-so a fydd yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas, ac yn atgyfnerthu ein bywiogrwydd economaidd yn fawr. Rhagwelir y bydd Cam Un ‘Abertawe Ganolog’ ar ei ben ei hun yn creu mwy na 2,500 o swyddi newydd ar draws y sector adeiladu a’r tu hwnt iddo, y disgwylir i 75 y cant ohonynt gael eu llenwi gan drigolion lleol. Bydd Cam Dau hefyd yn cynnwys creu hyb sector cyhoeddus mawr, gyda’r potensial i greu miloedd yn fwy o swyddi yng nghanol y ddinas.”

Bydd rhaglen adfywio ehangach canol dinas Abertawe’n cyflwyno rhagor o dai newydd i’r ddinas, yn ogystal â chyfleusterau dysgu a busnes. Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd yn cyllido rhanbarth masnachol newydd yn rhannol, yn cynnwys hyb arloesi 100,000 tr. sg. gyda mannau deori a chydweithio ar gyfer busnesau bach yn y diwydiannau technoleg a chreadigol, a ‘phentref blychau’ newydd a man arloesi i’w adeiladu ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant SA1. Bydd hyn yn darparu lle hyblyg a fforddiadwy o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau newydd a myfyrwyr, gan helpu i gadw ôl-raddedigion yn y ddinas. Ar ôl eu cwblhau, bydd y prosiectau hyn, ar y cyd, yn cynhyrchu gwariant aelwydydd £6.6 miliwn ychwanegol y flwyddyn a gwerth ychwanegol crynswth £297 miliwn i’r economi leol.

Yn ogystal â bod yn gyrchfan ar gyfer adloniant o’r radd flaenaf, bydd Abertawe Ganolog yn gymdogaeth drefol newydd i bobl hefyd.

Meddai Mark Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol RivingtonHark: “Yn fwy nag erioed, mae angen i ganol dinasoedd gael ymyriad gan awdurdodau lleol er mwyn ffynnu, ac mae Abertawe’n enghraifft gadarnhaol o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda chyngor lleol blaengar wrth y llyw. Yn ogystal â bod yn gyrchfan ar gyfer adloniant o’r radd flaenaf, bydd ‘Abertawe Ganolog’ yn gymdogaeth drefol newydd i bobl hefyd. Mae’n cyfuno pensaernïaeth a dyluniad digyfaddawd â chyfleusterau a fydd yn tynnu pobl a busnes i mewn i’r ddinas, gan ategu uchelgeisiau’r ddinas i fod yn brif gyrchfan busnes a hamdden.”

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Cam Un ‘Abertawe Ganolog’ ym mis Hydref 2018. Dechreuodd y prif waith ar y safle ar 27 Tachwedd 2019 gyda’r bwriad i gwblhau Cam Un ganol 2021.