Paneli aur yn cael eu gosod yn arena abertawe

5 Gorffennaf 2021

Mae'r gwaith i osod paneli aur o'r radd flaenaf bellach wedi dechrau yn Arena Abertawe.

Bydd gan bob panel dechnoleg goleuadau LED flaengar a fydd yn caniatáu sioeau goleuadau gwych o amgylch y tu allan i’r atyniad.

Unwaith bydd yr arena wedi’i chwblhau ac wedi agor, gellid defnyddio’r paneli hefyd i hyrwyddo sioeau, cyngherddau, cynadleddau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod.

Bydd dros 1,600 o baneli lliw aur yn cael eu gosod o amgylch y tu allan i’r arena yn ystod y misoedd nesaf, ynghyd â mwy na 95,000 o oleuadau LED.

Mae’r arena sydd â lle i 3,500 o bobl yn un rhan o ardal newydd cam un Bae Copr sy’n werth £135 miliwn sy’n cael ei harwain gan Gyngor Abertawe a’i chynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.

Ambassador Theatre Group (ATG) fydd yn rhedeg Arena Abertawe unwaith y bydd ar agor.

Mae gwaith adeiladu cam un Bae Copr, sy’n cael ei arwain gan Buckingham Group Contracting Limited, wedi’i glustnodi i’w gwblhau’r hydref hwn.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, “Mae gosod y paneli lliw aur yn fwy o gynnydd eto ar gyfer datblygiad Arena Abertawe, a fydd wrth wraidd ardal cam un newydd Bae Copr y ddinas.

“Bydd y paneli, unwaith y byddant i gyd wedi’u gosod, yn ategu lliw pont Bae Copr, gan greu atyniad o’r 21ain ganrif sydd hefyd yn dathlu treftadaeth creu copr falch Abertawe.

“Bydd dangos cynnwys o amgylch y tu allan i’r arena yn helpu i godi proffil yr arena ymhellach, wrth ategu asedau digidol newydd eraill a fydd yn chwarae rôl yn y rhaglen ddigwyddiadau flynyddol.

“Mae’r gwaith adeiladu ar ran un Bae Copr wedi parhau drwy gydol y pandemig. Ar y cyd â phrosiectau parhaus eraill, mae hyn yn golygu bod economi Abertawe mewn sefyllfa dda i wella o COVID-19, gyda miloedd o swyddi ar y ffordd i bobl leol.”

Yn ogystal â’r arena a’r bont, mae cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw yn ogystal â lleoedd parcio newydd, busnesau a fflatiau.

Cyngor Abertawe sy’n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o’r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Ariennir pont Bae Copr, sy’n rhan o’r cynllun, yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Cynllunnir ail gam o ddatblygiad Bae Copr hefyd. Bydd y cam hwn, sy’n cynnwys hwb sector cyhoeddus newydd, yn werth £106 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.