Mae’r profion cychwynnol, cyfyngedig yn dilyn gosod peth o’r paneli goleuadau LED euraid sy’n cael eu gosod o gwmpas y tu allan i’r datblygiad.
Cynhelir rhagor o brofion paratoadol yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod wrth i fwyfwy o baneli goleuadau gael eu gosod.
Unwaith y cwblheir hyn, bydd dros 1,600 o baneli o gwmpas rhan allanol yr arena, gyda 95,000 o oleuadau LED.
Bydd hyn yn golygu y gellir cynnal sioeau goleuadau o amgylch y tu allan i’r arena a bydd potensial hefyd i hyrwyddo sioeau, cyngherddau, cynadleddau a digwyddiadau eraill sydd ar ddod.
Mae’r arena sydd â lle i 3,500 o bobl ac a gaiff ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group yn un rhan o ardal newydd cam un Bae Copr sy’n werth £135 miliwn sy’n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a’i chynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae dechrau’r profion paratoadol, rhannol ar gyfer peth o’r paneli goleuadau LED yn gam ymlaen arall ar gyfer y gwaith i adeiladu Arena Abertawe, ac mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud hefyd ar holl elfennau eraill ardal newydd cam un Bae Copr y ddinas.
“Profion cynnar a chyfyngedig yw’r rhain, felly ni fydd yr hyn y bydd pobl yn ei weld yn yr wythnosau sydd i ddod yn adlewyrchu’r arddangosiadau ansawdd uchel y bydd i’w gweld ar y tu allan i’r arena pan fydd ar agor ac yn weithredol.
“Dim ond pan fydd pob panel wedi’i osod ac y bydd gennym rhaglen o gynnwys yn ei lle y byddwn yn gweld gallu llawn y dechnoleg, a fydd yn cyfuno â phopeth arall sydd yn yr arfaeth i ddatblygu atyniad o’r radd flaenaf.
“Bydd datblygiad trawiadol yr arena hefyd yn ategu nodweddion eraill cam un Bae Copr i greu cyrchfan fywiog newydd i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â’r ddinas fel rhan o gynllun a fydd yn creu cannoedd o swyddi ac yn werth £17.1 miliwn y flwyddyn i’r economi leol.
“Mae Bae Copr yn un rhan o’n stori adfywio gwerth £1 filiwn sy’n datblygu ar draws Abertawe, gan drawsnewid ein dinas yn un o’r goreuon yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi.”
Mae cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys y parc arfordirol 1.1 erw, ynghyd â lleoedd parcio, busnesau a fflatiau newydd. Buckingham Group Contracting Limited sy’n arwain y gwaith adeiladu y disgwylir iddo gael ei gwblhau’r hydref hwn, a bydd yr arena’n agor ei drysau’n gynnar yn 2022.
Swansea Council is financing Copr Bay phase one, with some funding for the arena coming from the Swansea Bay City Deal. Bydd datblygwr ar gyfer cam dau Bae Copr a nifer o safleoedd eraill yn Abertawe yn cael eu penodi yn ddiweddarach eleni fel rhan o fenter Adfywio Abertawe.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr