Mae’r Pafiliwn, sydd wedi’i osod ym mharc arfordirol newydd y ddinas gerllaw’r Marina gydag 1.1 erw o erddi wedi’u tirlunio o’i gwmpas, yn darparu cyfle newydd ar gyfer cysyniad bwyty/caffi newydd a fydd yn gyrchfan poblogaidd i deuluoedd y ddinas.


Rydym wedi cynllunio’r Pafiliwn i gynnwys deunyddiau o ffynonellau cynaliadwy a tharddiad lleol. Mae’r rhain yn cynnwys trawstiau a cholofnau coed laminedig, ochr yn ochr â chladin Llarwydd a gwaith maen lleol.
Roger Langham
Pinelog, penseiri’r Pafiliwn
Mae caffi a bwyty’r Pafiliwn wedi’i gynllunio gan Pinelog, sy’n aelod pensaer o’r Gofrestr Werdd. Mae’r dyluniad yn hyrwyddo ynni adnewyddadwy i leihau allyriadau carbon, gyda phaneli solar yn cael eu defnyddio i bweru’r goleuadau. Wedi’i amgylchynu gan 1.1 erw o barc newydd wedi’i dirlunio, sy’n cynnwys ardal chwarae fawr i blant, mae’r Pafiliwn wedi’i leoli yn uniongyrchol i’r Gorllewin o’r Arena.
Maint yr uned:
129 M SG / 1,389 TR SG (a seddi allanol ychwanegol)
Os hoffech drafod cyfle prydlesu ym Mae Copr, cysylltwch â Spencer Winter yn RivingtonHark, neu Jonathan Hicks yng Nghyngor Abertawe.