Rhagor o goed i’w plannu fel rhan o brosiect yr arena

Yr wythnos hon, bydd gwaith yn dechrau i ehangu stryd yng nghanol y ddinas yn barod ar gyfer traffig dwy ffordd fel rhan o brosiect arena Abertawe.

Hefyd, mae 17 o goed newydd – gan gynnwys rhywogaethau fel masarn coch, planwydd Llundain a bedw – yn cael eu plannu’n agos at siop Tesco yn y Marina fel rhan o’r cynllun yn Stryd Wellington.

Bydd y mannau gwyrdd newydd, wedi’u hategu gan gyflwyno planhigion eraill, yn rhan o gynllun Cam Un Abertawe Ganolog gwerth £135 miliwn.

Bydd yn cyd-fynd â gwelliannau i Stryd Wellington. Bydd y rhain yn galluogi mynediad gwell i faes parcio aml-lawr y Cwadrant a maes parcio Tesco, a mynediad hwylus i faes parcio aml-lawr â 588 o leoedd sy’n cael ei adeiladu fel rhan o Abertawe Ganolog ar hen faes parcio’r Santes Fair.

Mae’r gwaith gwella’n dechrau ddydd Mercher a bydd yn cymryd nifer o fisoedd. Bydd mynediad i faes parcio’r Cwadrant, Tesco a chyfleuster coetsis y stryd yn cael ei gynnal.

Dywedodd Mark Thomas, aelod cabinet y cyngor dros wella’r amgylchedd a rheoli’r isadeiledd, y bydd y gwaith yn gwella mynediad i dri lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas, yn ogystal â helpu Abertawe i fod yn ddinas wyrddach.

Meddai: “Mae Abertawe’n dod yn ddinas wyrddach ac mae ein prosiectau’n adfywio’n adlewyrchu hynny, gyda channoedd o goed yn ymddangos ar Ffordd y Brenin ac yn yr arfaeth ar gyfer datblygiad Cam Un Abertawe Ganolog.

“Mae’r cyngor hwn am gynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe – ac mae Stryd Wellington yn enghraifft o hynny.”

Bydd y gwelliannau i Stryd Wellington yn cynnwys:

  • Coed newydd wedi’u plannu mewn llain ganol newydd ym mhen Ffordd y Gorllewin o Stryd Wellington, ar safle’r fynedfa bresennol i faes parcio Tesco a rhwng siop Tesco a maes parcio aml-lawr y Cwadrant.
  • Adnewyddu’r ardaloedd tirlunio meddal presennol.
  • Symud mynedfa maes parcio Tesco tua 40 metr i’r dwyrain ar hyd Stryd Wellington
  • Newid Stryd Wellington rhwng siop Tesco a maes parcio aml-lawr y Cwadrant i fod yn ddwy lôn ac yn ddwy ffordd
  • Gosod safle bws a ffordd drylifo i fodurwyr sy’n mynd i faes parcio’r Cwadrant

Bydd darpariaeth lleoedd parcio i’r anabl yn parhau i fod yn agos at fynedfa’r siop.

Cynhaliwyd ymgynghoriad llawn â Tesco ac mae busnesau yng nghanol y ddinas yn cael gwybod am y newidiadau.

Swansea Central Phase One will include a 3,500-capacity arena which is key to the city’s regeneration.

Bydd agweddau eraill ar y cynllun yn cynnwys lleoedd parcio, pont dirnod, parc arfordirol, unedau masnachol a rhandai.

Bydd yn dod â swyddi newydd ac yn gatalydd ar gyfer rhagor o fuddsoddiad yn y ddinas. Caiff yr arena ei rheoli gan ATG, gweithredwr adloniant byd-eang.