Rob Brydon yn datgan bod Arena Abertawe’n ‘hwb diwylliannol enfawr’ ar gyfer y ddinas

21 February 2022

Mae'r difyrrwr Rob Brydon sy'n boblogaidd ar draws y byd wedi canmol arena newydd Abertawe fel 'hwb diwylliannol enfawr ar gyfer y ddinas' mewn cyfweliad gyda The Daily Telegraph.

Mae’r difyrrwr Rob Brydon sy’n boblogaidd ar draws y byd wedi canmol arena newydd Abertawe fel ‘hwb diwylliannol enfawr ar gyfer y ddinas’ mewn cyfweliad gyda The Daily Telegraph.

Roedd Rob, a aeth i’r ysgol yn Abertawe ac a fydd yn perfformio A night of Songs and Laughter yn yr adeilad eiconig newydd ar 30 Ebrill, hefyd wedi siarad am ei wyliau niferus yn y ddinas fel bachgen ifanc, gan ddweud bod gan Abertawe ‘le arbennig yn ei galon’ o hyd.

Meddai Rob, “Mae’r ddinas wedi’i hamgylchynu gan yr arfordir, mae’n agos at draethau prydferth fel Langland a threfi dymunol fel y Mwmbwls – a’r tu hwnt i hynny mae penrhyn Gŵyr a Bae y Tri Chlogwyn.

“Es i i’r ysgol yn Abertawe ac mae fy atgofion wedi’u cyfuno â’r hyn yr oedd Dylan Thomas yn ei ysgrifennu am y ddinas, yn enwedig Parc Cwmdoncyn. Rwy’n cofio’r cynnwrf pan ddaeth The Bay City Rollers i’r dref.

“Dwi eisoes wedi perfformio yn Neuadd Brangwyn ar fy nhaith bresennol gyda’r band, ond pan fyddwn yn dychwelyd ym mis Ebrill 2022, byddwn yn perfformio yn arena newydd sbon Abertawe, a fydd yn hwb diwylliannol enfawr i’r ddinas.”

Gallwch ddarllen cyfweliad llawn Rob â The Daily Telegraph drwy glicio yma.

Yn A Night of Songs and Laughter yn Arena Abertawe, bydd Rob yn adrodd am ei daith gerddorol bersonol o dde Cymru i Hollywood ac yn ôl.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad, y mae bron pob un ohonynt wedi cael eu gwerthu erbyn hyn, ar gael ar wefan gweithredwr arena Abertawe, Ambassador Theatre Group yma.

Mae’r arena’n rhan o brosiect cam un Bae Copr gwerth £135m sy’n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe, gyda RivingtonHark fel y rheolwr datblygu. Buckingham Group Contracting Ltd sy’n arwain y gwaith adeiladu.