Teulu o Abertawe i redeg bwyty ym mharc arfordirol newydd y ddinas

23rd Gorffennaf 2021

Mae teulu o Abertawe wedi ymrwymo i redeg busnes bwyd a diod newydd sy'n rhan o ardal Cam Un Bae Copr sy'n dod i'r amlwg yn y ddinas.

Mae Ryan a Lucy Hole – perchnogion The Secret Hospitality Group – wedi ymrwymo i brydles ar gyfer bwyty a chaffi 1,400 troedfedd sgwâr sy’n cael ei adeiladu yn y parc arfordirol 1.1 erw ar bwys datblygiad Arena Abertawe.

Bydd gan y bwyty a’r caffi newydd, y disgwylir iddo agor ar ddiwedd 2021, le i oddeutu 60 o bobl yn ogystal â seddi awyr agored.

Bydd cynaladwyedd wrth wraidd yr adeilad. Bydd adeiladwaith y bwyty a’r caffi, a ddyluniwyd gan gwmni o’r enw Pinelog, yn cynnwys deunyddiau o ffynonellau cynaliadwy ynghyd â phaneli solar i leihau ei ôl troed amgylcheddol.

Mae The Secret Hospitality Group hefyd yn berchen ar The Secret Beach Bar & Kitchen ar Mumbles Road, yn ogystal â’r Optimist Bar & Kitchen yn ardal Uplands y ddinas.

Bydd y bwyty mwyaf newydd yn y grŵp, fel y lleill, yn cael ei gynnyrch oddi wrth fusnesau lleol, gan gefnogi ymhellach economi Abertawe.

Lucy & Ryan

Meddai Ryan Hole, “Doedd dim rhaid i ni feddwl ddwywaith pan ddaeth y cyfle hwn i’n rhan.

“Mae cynllun £1 biliwn Cyngor Abertawe i drawsnewid y ddinas yn bleidlais o hyder

“Bydd ein bwyty diweddaraf yn dirnod newydd ar gyfer Abertawe, yn rhan o gyrchfan newydd i breswylwyr ac ymwelwyr i fwynhau bwyd a diod da, a hynny dafliad carreg yn unig o’r Arena a’n harfordir trawiadol.

“Rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o’r broses i drawsnewid ein dinas ac i chwarae rhan ynddi.”

Ambassador Theatre Group (ATG) will operate Swansea Arena.

Mae cam un Bae Copr yn cael ei gyflawni gan y cyngor, wrth weithio ochr yn ochr â’r rheolwr datblygu, RivingtonHark.

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae bod o fudd i bobl leol a busnesau lleol yn allweddol i bob adfywiad yn Abertawe, gan gynnwys cam un Bae Copr, felly mae croesawu The Secret Hospitality Group fel gweithredwyr y bwyty a’r caffi newydd yn newyddion gwych.

“Bydd yr atyniad hwn yn y parc arfordirol newydd sydd bellach yn dechrau datblygu ar bwys Arena Abertawe, yn dod yn gyrchfan ac yn lle chyfarfod newydd arall ar gyfer preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr i’r ddinas.

“Mae hwn yn arwydd pellach o gynnydd ar gyfer ein datblygiad cam un Bae Copr gwerth £135 miliwn, gyda’n pont nodedig Bae Copr bellach yn ei lle ac mae’r gwaith i adeiladu’r arena, â lle i 3,500 o bobl, yn datblygu’n gyflym.”

Mae’r cynllun sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd yn cynnwys cartrefi newydd, rhagor o unedau busnes a channoedd o leoedd parcio newydd.

Bydd datblygwr ar gyfer cam dau Bae Copr a nifer o safleoedd eraill yn Abertawe yn cael eu penodi yn ddiweddarach eleni fel rhan o fenter Adfywio Abertawe.