Meddai Hayley Davies a Keith Thomas o JCP Solicitors fod y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd yn y ddinas yn golygu bod cymuned fusnes Abertawe’n gadarnhaol am y dyfodol.
Mae’r gwaith adfywio a chaiff ei arwain gan Gyngor Abertawe’n cynnwys datblygiad atyniadol cam un Bae Copr sy’n werth £135m, sy’n cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, parc arfordirol 1.1 erw, pont nodedig, maes parcio, cartrefi newydd a lleoedd ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch.
Gyda gwaith adeiladu cam un Bae Copr i’w gwblhau yn yr hydref, mae hyn yn dilyn gwaith trawsnewid gwerth £12m ar Ffordd y Brenin, sy’n cyd-fynd â chynlluniau sy’n cynnwys prosiect gwerth £3m i wella Stryd y Gwynt.
Meddai Hayley Davies, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr JCP Solicitors, “Mae JCP Solicitors yn fusnes cartref ac rydym yn falch o’n gwreiddiau yn Abertawe, felly rydym yn falch o weld cynifer o brosiectau adfywio uchelgeisiol yn datblygu ar draws ein dinas.
Er gwaethaf y ffaith ein bod yn gweithredu yn ystod cyfnod heriol, mae busnesau Abertawe wedi parhau i fod yn gadarnhaol am y dyfodol. Mae gweld yr agwedd gadarnhaol hon yn cael ei hadlewyrchu gan Gyngor Abertawe a’r datblygwyr sy’n arwain y broses adfywio wedi bod yn hwb i ni gyd.
“Yma yn JCP Solicitors rydym yn bwriadu parhau i fod yn rhan barhaus o stori Abertawe ac rydym yn gweld buddsoddwyr newydd yn gwneud ymrwymiadau tebyg ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y datblygiadau’n gwneud cynnydd wrth iddynt barhau i ddod â gwerth i’n dinas.”
Meddai Keith Thomas, Cyfarwyddwr a Phennaeth Gwasanaethau Anafiadau, “Fel un o Jacs balch Abertawe sy’n gallu gweld cartrefi ei neiniau a’i deidiau o ochr fy fam a’m tad o ffenestri uchaf swyddfa JCP Solicitors yn Abertawe, mae’n galonogol gweld proses adfywio’r ddinas yn gwneud cynnydd.
“Bydd yr arena drawiadol yn hwb gwych i ganol dinas Abertawe ac mae’r gwaith i wella Ffordd y Brenin yn edrych yn addawol hefyd. Mae Abertawe wedi profi cyfnod hir o ddigalondid ôl-ddiwydiannol ac rwy’n falch i weld hyn y tu ôl i ni nawr gyda chymorth y datblygiadau cyffrous hyn.”
Mae cynlluniau eraill sydd yn yr arfaeth yn Abertawe’n cynnwys ail-lasu Sgwâr y Castell, yn ogystal ag adeiladu datblygiad swyddfeydd o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau o’r sectorau technegol, digidol a chreadigol yn 71/72 Ffordd y Brenin.
Caiff treftadaeth ddiwydiannol y ddinas ei dathlu hefyd gan gynlluniau sy’n cynnwys y gwaith parhaus i adfywio Gwaith Copr hanesyddol yr Hafod-Morfa’n gyrchfan hamdden a fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr a distyllfa ar gyfer Wisgi Penderyn.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr