Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno bellach ar gyfer yr unedau a fydd yn rhan o gynnig dros dro ar gyfer y safle.
Yn amodol ar roi caniatâd cynllunio, caiff cynhwysydd cymunedol ei gyflwyno hefyd at ddefnydd ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau’r trydydd sector a Chyngor Abertawe.
Bydd parc dros dro hefyd yn rhan o’r cynllun dwy flynedd dros dro ar gyfer y safle, gan ddod â rhagor o wyrddni i ganol y ddinas.
Bydd y parc dros dro bioamrywiol, sydd wedi’i ddatblygu gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Urban Foundry, yn cynnwys gardd law a chymysgedd o blanhigion, toeon byw, seddi a chysgodfeydd beiciau.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae’r cynwysyddion bwyd a diod dros dro yn rhan o gynllun dwy flynedd dros dro ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant, wrth aros am adfywiad cyffrous tymor hir fel rhan o’n menter Adfywio Abertawe.
“Bydd y cynllun dros dro hwn, ar y cyd â’r parc dros dro, yn dod â mwy o fywiogrwydd, gwyrddni, gweithgarwch a bioamrywiaeth i safle sy’n gyswllt uniongyrchol rhwng canol y ddinas a’n hardal cam un Bae Copr newydd.
“Yn amodol ar roi caniatâd cynllunio, bydd marchnata ar gyfer yr unedau bwyd a diod yn dechrau cyn bo hir, gyda ffocws ar fusnesau newydd er mwyn cefnogi’n heconomi leol ymhellach.”
Mae holl nodweddion y parc dros dro a’r cynwysyddion yn cael eu dylunio’n hyblyg, fel y gellir eu defnyddio mewn mannau eraill yng nghanol y ddinas mewn blynyddoedd i ddod.
Mae dymchwel adeilad Llys Dewi Sant a maes parcio aml-lawr Dewi Sant hefyd yn rhan o’r cynllun dwy flynedd dros dro hwn ar gyfer y safle. Caiff deunyddiau’r adeiladau a ddymchwelir eu hailddefnyddio fel rhan o arwyneb dros dro ar y safle erbyn diwedd 2021.
Cyflwynir goleuadau newydd hefyd ar y safle, a bydd lle parcio newydd yn cael ei osod gerllaw fel rhan o ddatblygiad Bae Copr.
Buckingham Group Contracting Ltd – prif gontractwr y cyngor ar gyfer ardal Cam Un Bae Copr – fydd yn gwneud y gwaith arfaethedig.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Bae Copr